Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ar y papur trefn.
Mae pobl Cymru wedi dioddef y cyfyngiadau symud mwyaf difrifol y bydd neb ohonom wedi'u profi yn ystod ein hoes yn y misoedd diwethaf—cyfyngiadau sydd wedi bod yn fwy llym ac wedi para'n hwy nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Torrwyd y cysylltiad rhwng pobl a'u ffrindiau a'u teuluoedd. Mae Sul y Mamau, Sul y Tadau, y Pasg, pen-blwyddi, pen-blwyddi priodas, priodasau a phob math o ddigwyddiadau eraill a fyddai fel arfer yn dod â theuluoedd at ei gilydd wedi bod yn achlysuron eithaf tawel eleni. Ac wrth gwrs, cyflwynwyd y cyfyngiadau am reswm da: trwy aros gartref, rydym yn helpu i ddiogelu llawer o'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, ac rydym wedi lleihau lledaeniad y coronafeirws. Ond roedd parhau'r rheol 5 milltir yn greulon. Rwy'n cydnabod mai bwriad Llywodraeth Cymru oedd atal teithiau hir ac osgoi llethu traethau Cymru neu gyrchfannau eraill, ond roedd y rheol 5 milltir yn fympwyol. Roedd yn cadw teuluoedd ar wahân, a thu hwnt i ardaloedd trefol a dweud y gwir, roedd hi'n destun gwawd. Effeithiodd yn andwyol ar berthynas pobl â'i gilydd. Gwaethygodd broblemau'n ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd, cyfrannodd at salwch meddwl a lles gwael, a gwnaeth lawer o fusnesau yng Nghymru yn llai hyfyw.
Cyn y pandemig, Cymru oedd â'r economi wanaf yn y DU eisoes wrth gwrs, a'r gyfradd uchaf o siopau gwag ar y stryd fawr, felly nid yw cadw Cymru dan gyfyngiadau symud am fwy o amser yn mynd i'n helpu i fynd i'r afael â'r ffeithiau hyn. Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth y cyhoedd â chanllawiau'r Llywodraeth, wrth gwrs, mae'n bwysig fod angen i Weinidogion sicrhau bod eu cyfarwyddiadau i'r cyhoedd yn deg, yn realistig ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth. Byddai gwneud unrhyw beth heblaw hynny, wrth gwrs, yn creu perygl o elyniaethu'r cyhoedd ac eto, hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhithyn o dystiolaeth wyddonol dros ei rheol 5 milltir greulon. A dyna pam ein bod yn croesawu llacio'r cyfyngiadau teithio o ddydd Llun ymlaen yn fawr iawn.
Bydd llawer o'r bobl sydd am fwynhau cael eu rhyddid yn ôl, wrth gwrs, yn dewis neidio ar fws. Mae teithio ar fws, wrth gwrs, yn hanfodol i lawer o'n dinasyddion, ond mae'n achubiaeth sydd mewn perygl cynyddol yma yng Nghymru. Roedd nifer y bobl a deithiai ar fysiau eisoes wedi gostwng bron i chwarter dros y 13 mlynedd diwethaf o ganlyniad i doriadau ariannol, masnachfreintiau aflwyddiannus a chwtogi nifer y llwybrau, ac yn ystod y pandemig, mae wedi gostwng 90 y cant arall, a digwyddodd rhywfaint o hynny'n uniongyrchol o ganlyniad i bobl yn methu teithio y tu hwnt i'r rheol 5 milltir greulon.