Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Mae'r mesur cadw pellter cymdeithasol o 2m hefyd yn golygu mai dim ond nifer fach o'u teithwyr blaenorol y gall bysiau eu cludo erbyn hyn. Mewn rhai achosion, ni fydd bws â chapasiti llawn o 64 ond yn gallu cludo llai na 10 o deithwyr yn unig. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru atal toriadau pellach i wasanaethau bysiau drwy gynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr er mwyn diogelu'r llwybrau hollbwysig hyn i fywydau pobl.
Mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi awgrymu y gallai £5.7 miliwn y mis adfer gwasanaethau yng Nghymru i'w capasiti cyn y cyfyngiadau. Nawr, rwy'n falch iawn fod cyflwyno ein cynnig yr wythnos diwethaf wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn sefydlu cronfa argyfwng ar gyfer bysiau yng Nghymru, ond rwy'n ofni mai prin oedd y manylion yn y datganiad ysgrifenedig i fynd gyda'r cyhoeddiad ynglŷn â sut y bydd y gronfa newydd hon yn gweithio, felly efallai y gall y Gweinidog rannu rhagor o wybodaeth am hyn yn ei ymateb i'r ddadl hon, oherwydd os collwn fwy o lwybrau bysiau yn ystod y pandemig hwn, y realiti yw ein bod mewn perygl o weld newid moddol—newid yn ôl i ddefnyddio'r car ac oddi ar drafnidiaeth gyhoeddus. Oherwydd pan fydd llwybrau bysiau'n cael eu torri, y gwir amdani yw mai anaml iawn y byddant yn cael eu hadfer.
Ddirprwy Lywydd, mae arnom angen i Lywodraeth Cymru edrych eto ar ei safbwynt ar orchuddion wyneb. Unwaith eto, ymddengys bod Cymru ar ei hôl hi yn y mater hwn. Er bod gorchuddion wyneb yn orfodol yn awr ar gyfer rhai gweithgareddau yn yr Alban ac yn Lloegr, nid yw hynny'n digwydd yng Nghymru. Gan fod lefel y teithiau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr mor sylweddol, nid yw hyn yn gwneud synnwyr, a dyna pam y byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Brexit, sy'n argymell bod gorchuddion wyneb yn orfodol wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol.
Ond nid ein bysiau yn unig sy'n dioddef o effaith y pandemig—mae'r diwydiant hedfan yn dioddef hefyd wrth gwrs. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Airbus fod dros 1,400 o swyddi'n cael eu colli yn ei safle ym Mrychdyn yng ngogledd Cymru—ergyd drom i'r gweithwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â'r economi ehangach. Yn ogystal, mae maes awyr Caerdydd, y bu trethdalwyr yn ei gynnal ers ei wladoli yn ôl yn 2013, yn naturiol wedi gweld gostyngiad enfawr yn nifer y teithwyr.
Ni chaiff y syniad o adferiad buan i faes awyr Caerdydd a'r sector hedfan ehangach ei helpu drwy fod Llywodraeth Cymru'n annog cwmnïau hedfan rhad poblogaidd fel Ryanair rhag hedfan o Gymru, fel y gwnaethant yr wythnos diwethaf. Felly, a all Gweinidogion esbonio heddiw pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i helpu'r diwydiant hedfan yng Nghymru i ymadfer, gan gynnwys cynlluniau i hyrwyddo llwybrau newydd i ac o fannau diogel tramor lle mae'r gyfradd drosglwyddo'n isel? Mae hyn yn arbennig o bwysig, wrth gwrs, i ddiwydiant twristiaeth Cymru, sydd angen manteisio i'r eithaf ar yr hyn sy'n weddill o dymor yr haf wrth symud ymlaen.
Mae'r diwydiant, wrth gwrs, yn werth biliynau i economi Cymru—mae'n cyflogi 8 y cant o weithlu Cymru—ac eto mae wedi bod ar gau am fwy o amser nag unrhyw ran arall o'r DU. Cafodd busnesau twristiaeth a lletygarwch agor yn Lloegr ddydd Sadwrn wrth gwrs, ond mae darpariaeth llety dros nos yn dal ar gau am naw diwrnod arall ar ôl y dyddiad agor yn Lloegr, a hynny ar adeg dyngedfennol, pan fo llawer o fusnesau ar ymyl y dibyn.
Ein marchnad dwristiaeth fwyaf, wrth gwrs, sy'n mynd i fod yn allweddol i adferiad yr economi twristiaeth, yw Lloegr, ac eto aeth ein Gweinidog iechyd ar yr awyr ar orsaf radio genedlaethol yr wythnos diwethaf i ddweud na fyddai'n diystyru cyflwyno cyfnod cwarantin ar gyfer ymwelwyr â Chymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig—am awgym chwerthinllyd. Pam y byddai unrhyw un yn dod i Gymru am benwythnos o wyliau pe bai'n rhaid iddynt dreulio pythefnos mewn cwarantin ar ôl iddynt gyrraedd? Mae'n sefyllfa hollol hurt. Mae gennym ffin agored â Lloegr. Sut ar y ddaear y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu atal y teithio dyddiol rhwng Cymru a Lerpwl, Caer, Amwythig neu Fryste pan fo gennych sefyllfa fel sydd gennym ni? Y peth olaf sydd ei angen ar bobl Cymru, a bod yn onest, yw llen lechi ar hyd ein ffin â Lloegr ar adeg pan fo angen inni hybu masnach rhwng ein dwy genedl wych.
Ni ddylai neb sy'n cyrraedd Cymru o'r DU na'r ardal deithio gyffredin ehangach orfod treulio cyfnod dan gwarantin wrth ymweld â'r rhan hon o'r Deyrnas Unedig, felly rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn diystyru hyn heddiw, ac rwy'n disgwyl i'r Gweinidog wneud hynny yn ei sylwadau ar ein dadl. Gobeithio hefyd y bydd llefarydd Plaid Cymru yn egluro pam eu bod i'w gweld yn cefnogi gosod gwladolion y DU ac Iwerddon dan gwarantin cyn iddynt ddod i mewn i Gymru, oherwydd mae eu gwelliant yn cynnig dileu'r datganiad sydd gennym yn ein cynnig ni er mwyn ei ddiwygio. Nawr, rydym yn cefnogi gwaith Llywodraeth y DU yn sefydlu pontydd awyr, sef yr hyn y mae gwelliant Plaid Cymru'n cyfeirio ato wrth gwrs. Rydym yn cefnogi'r gwaith hwnnw. Rydym am weld pontydd awyr yn cael eu sefydlu gyda chyrchfannau tramor diogel eraill. Ond wrth gwrs, nid yw pontydd awyr yn berthnasol i wledydd fel Lloegr lle mae gennym bontydd go iawn sy'n cysylltu Cymru â Lloegr. Felly, er mwyn y rhai sy'n croesi'r ffin yn rheolaidd ac sy'n awyddus i ymweld â Chymru, rydym yn mynd i wrthwynebu gwelliant Plaid Cymru. Rwy'n credu bod angen inni anfon neges glir iawn heddiw, sef bod Cymru, o 11 Gorffennaf ymlaen, a gwell hwyr na hwyrach, ar agor i fusnes yn bendant iawn ac rydym am annog pobl i ymweld â Chymru'n ddiogel.
Felly, i gloi'r sylwadau agoriadol hyn, Ddirprwy Lywydd, mae Cymru'n ailagor, er yn araf. Mae angen inni helpu i sicrhau bod Cymru'n ailddechrau symud drwy gefnogi gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, drwy gael ein rhwydwaith bysiau yn ôl ar ei draed, drwy gefnogi ein diwydiant awyrennau, ac mae angen hefyd inni ddiogelu ein diwydiant twristiaeth a'r swyddi sy'n ddibynnol arno drwy hyrwyddo Cymru fel cyrchfan, nid tynnu llen lechi ar hyd ein ffin. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ei rhan wrth gwrs, gyda gostyngiad yn y TAW i fusnesau twristiaeth a lletygarwch ar gyfer y dyfodol, sy'n gam rhagorol yn fy marn i. Mae angen inni weld Llywodraeth Cymru yn torchi ei llewys yn awr ac yn cyflawni rhywfaint o waith cymorth ei hun. Rwy'n annog pobl i gefnogi ein cynnig. Diolch.