11. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 7:06 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:06, 8 Gorffennaf 2020

Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 2130 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth -Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 16 ASau

Na: 39 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:08, 8 Gorffennaf 2020

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo—gwelliant 2 a gwelliant 3 wedi eu dad-ddethol. 

Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1 (Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 2131 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1 (Rebecca Evans)

Ie: 29 ASau

Na: 26 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:08, 8 Gorffennaf 2020

Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. 

Cynnig NDM7345 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd, cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio.

2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes, fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar gael ar gyfer meysydd eraill.

3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth brys sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru yn ystod y pandemig.

4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i Gymru.

5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru:

a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er mwyn ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio rhyngwladol;

b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol; ac

c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:08, 8 Gorffennaf 2020

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, pedwar yn ymatal, 22 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 2132 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 29 ASau

Na: 22 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Wedi ymatal: 4 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw