Grŵp 1: Trosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol (Gwelliannau 1, 3, 2)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:10 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 7:10, 8 Gorffennaf 2020

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i gynnig dau welliant Plaid Cymru yn y grŵp yma. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, dyw'r Bil ddim ond yn gwahardd anifeiliaid gwyllt rhag perfformio neu gael eu harddangos ar gyfer adloniant mewn amgylchedd o syrcas deithiol. I fi, mae'r diffiniad yna yn llawer rhy gyfyng, ac mi fydd Aelodau, wrth gwrs, wedi derbyn negeseuon gan fudiadau megis yr RSPCA ac Animal Defenders International yn mynegi'r un farn ac yn eich hannog chi i gefnogi gwelliannau Plaid Cymru yn hynny o beth.