Datganiadau ar Srebrenica

Part of the debate – Senedd Cymru am 11:05 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 11:05, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i chi, yn bersonol, a'r Comisiwn hefyd am ganiatáu inni gael y datganiad hwn heddiw, sy'n briodol iawn yn fy marn i nodi pum mlynedd ar hugain ers y digwyddiad? Fel y dywedoch chi, roedd yn anrhydedd i mi arwain dirprwyaeth o’r Comisiwn yn 2015. Gwelwyd digwyddiad mawr yn y flwyddyn honno hefyd—digwyddiad cenedlaethol Cymru y flwyddyn honno—yn y Senedd, ac fe'i cynhaliwyd yn urddasol ac yn bwrpasol iawn. 

Nawr, dyma ni, 25 mlynedd wedi'r gyflafan ofnadwy—y bennod dywyllaf, o ran gwrthdaro Ewropeaidd, ers yr ail ryfel byd. Fel y Prif Weinidog, rwy'n gwisgo blodyn Srebrenica. Cafodd y blodyn hwn ei grosio gan Famau Srebrenica—mamau'r dioddefwyr. Rwy'n credu y dylem gofio am yr holl berthnasau a fu’n byw gyda'r ing ofnadwy o fod wedi gweld eu hanwyliaid yn cael eu llofruddio yn y gyflafan ofnadwy honno. 

Hoffwn dalu teyrnged hefyd i fwrdd Cofio Srebrenica Cymru, yn enwedig Saleem Kidwai ac Abi Carter, sef y cyd-gadeiryddion, sy'n gwneud llawer—cymaint—i godi ymwybyddiaeth o'r digwyddiad ofnadwy hwn yn ein hanes, ond hefyd beth y dylem fod yn ei wneud yn ein cymunedau ein hunain i sicrhau na chaniateir i gasineb o'r fath ffynnu yn unrhyw le yn Ewrop.

Rwyf eisiau sôn hefyd am ba mor gydgysylltiedig ydym ni trwy waith heddwas o Gymru, Howard Tucker, a oedd yn bennaeth llu ymchwilio’r Cenhedloedd Unedig yn gynnar yn y 2000au, a arweiniodd at gymaint o’r casglu tystiolaeth ac a’i gwnaeth hi’n bosibl cynnal achosion yn yr Hag yn erbyn y troseddwyr rhyfel. Mae'n atgoffa bod gan Gymru ei rhan i'w chwarae trwy lawer o'i dinasyddion. 

Gwlad fach ydym ni, fel Bosnia, a gobeithio y bydd y cysylltiadau'n parhau, fel y cawsant eu harwain gan y Senedd. Hefyd, rwy’n cymeradwyo gwaith Llywodraeth Cymru yn achub ar gyfleoedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o Srebrenica drwy’r cwricwlwm addysgol, er enghraifft. 

Mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae yn amddiffyn democratiaeth gref, sydd ond yn gallu ffynnu ar sail goddefgarwch diwylliannol a dathliad o ddiwylliannau a thraddodiadau amrywiol. Pan wnawn hynny yng Nghymru, rydym hefyd yn helpu pobl Bosnia, fel y gwnawn gyda'n cysylltiadau uniongyrchol â hwy y gobeithiaf y byddant yn parhau am amser maith. Diolch yn fawr iawn.