– Senedd Cymru am 11:02 am ar 8 Gorffennaf 2020.
Yn gyntaf y prynhawn yma—.
Yr wythnos hon mae’n bum mlynedd ar hugain ers hil-laddiad erchyll Srebrenica. Rydym yn cofio am y dioddefwyr, y goroeswyr a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y fath weithred gywilyddus o gasineb ar yr adeg hon. Hoffwn wahodd y Prif Weinidog i wneud datganiad yn awr.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y dywedoch chi, eleni, rydym yn nodi pum mlynedd ar hugain ers hil-laddiad Srebrenica. Ym mis Gorffennaf 1995, fe wnaeth y Cadfridog Ratko Mladić a'i unedau parafilwrol Serbaidd drechu a chipio tref Srebrenica, gan anwybyddu'r ffaith bod yr ardal wedi'i dynodi'n lle rhydd rhag unrhyw ymosodiad arfog neu weithred elyniaethus arall. Yn y dyddiau a ddilynodd cwymp y dref, lladdwyd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd. Cafodd miloedd o fenywod, plant a phobl oedrannus eu halltudio drwy orfodaeth. Dyma oedd yr erchyllter mwyaf ar bridd Ewrop ers diwedd yr ail ryfel byd.
Heddiw, cofiwn y rhai a gollodd eu bywydau yn Srebrenica. Mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi goroesi, ac sydd wedi gwneud cymaint i sicrhau na fydd y gymuned ryngwladol yn eu hanghofio. Mae Srebrenica yn enw arall ar y rhestr o drefi a gwledydd sydd wedi eu llygru gan gasineb a hil-laddiad, ond mae hefyd yn ein hatgoffa o'r hyn sy'n digwydd pan fydd neb yn herio casineb a rhagfarn. Mae'n ein hatgoffa ni i gyd i sefyll gyda'n gilydd yn erbyn y casineb a'r rhaniadau yn ein cymunedau ein hunain yn ei holl ffurfiau, ble bynnag rydym ni yn y byd. Yng ngwasanaeth coffa'r Holocost yn gynharach eleni a fynychwyd gan nifer ohonom yma, clywsom gan Srebrenica, a chlywsom y slogan a ddywedir mor aml, 'Byth eto', a'r bwlch y mae'n rhaid i ni i gyd weithio mor galed i’w gau rhwng yr uchelgais hwnnw a'r gweithredoedd rydym yn dal i’w gweld o'n cwmpas yn y byd. Rhaid inni ddysgu o'r eiliadau tywyll hyn o hanes.
Mae Cymru’n Cofio Srebrenica.
Rwy'n falch o'r berthynas y mae ein Senedd wedi'i meithrin â Cofio Srebrenica a chyda phobl Bosnia. A'r person sydd wedi arwain ar y gwaith hwnnw i'r Senedd hon—gofynnaf i David Melding siarad yn awr ar ran yr elusen Cofio Srebrenica. David Melding.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i chi, yn bersonol, a'r Comisiwn hefyd am ganiatáu inni gael y datganiad hwn heddiw, sy'n briodol iawn yn fy marn i nodi pum mlynedd ar hugain ers y digwyddiad? Fel y dywedoch chi, roedd yn anrhydedd i mi arwain dirprwyaeth o’r Comisiwn yn 2015. Gwelwyd digwyddiad mawr yn y flwyddyn honno hefyd—digwyddiad cenedlaethol Cymru y flwyddyn honno—yn y Senedd, ac fe'i cynhaliwyd yn urddasol ac yn bwrpasol iawn.
Nawr, dyma ni, 25 mlynedd wedi'r gyflafan ofnadwy—y bennod dywyllaf, o ran gwrthdaro Ewropeaidd, ers yr ail ryfel byd. Fel y Prif Weinidog, rwy'n gwisgo blodyn Srebrenica. Cafodd y blodyn hwn ei grosio gan Famau Srebrenica—mamau'r dioddefwyr. Rwy'n credu y dylem gofio am yr holl berthnasau a fu’n byw gyda'r ing ofnadwy o fod wedi gweld eu hanwyliaid yn cael eu llofruddio yn y gyflafan ofnadwy honno.
Hoffwn dalu teyrnged hefyd i fwrdd Cofio Srebrenica Cymru, yn enwedig Saleem Kidwai ac Abi Carter, sef y cyd-gadeiryddion, sy'n gwneud llawer—cymaint—i godi ymwybyddiaeth o'r digwyddiad ofnadwy hwn yn ein hanes, ond hefyd beth y dylem fod yn ei wneud yn ein cymunedau ein hunain i sicrhau na chaniateir i gasineb o'r fath ffynnu yn unrhyw le yn Ewrop.
Rwyf eisiau sôn hefyd am ba mor gydgysylltiedig ydym ni trwy waith heddwas o Gymru, Howard Tucker, a oedd yn bennaeth llu ymchwilio’r Cenhedloedd Unedig yn gynnar yn y 2000au, a arweiniodd at gymaint o’r casglu tystiolaeth ac a’i gwnaeth hi’n bosibl cynnal achosion yn yr Hag yn erbyn y troseddwyr rhyfel. Mae'n atgoffa bod gan Gymru ei rhan i'w chwarae trwy lawer o'i dinasyddion.
Gwlad fach ydym ni, fel Bosnia, a gobeithio y bydd y cysylltiadau'n parhau, fel y cawsant eu harwain gan y Senedd. Hefyd, rwy’n cymeradwyo gwaith Llywodraeth Cymru yn achub ar gyfleoedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o Srebrenica drwy’r cwricwlwm addysgol, er enghraifft.
Mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae yn amddiffyn democratiaeth gref, sydd ond yn gallu ffynnu ar sail goddefgarwch diwylliannol a dathliad o ddiwylliannau a thraddodiadau amrywiol. Pan wnawn hynny yng Nghymru, rydym hefyd yn helpu pobl Bosnia, fel y gwnawn gyda'n cysylltiadau uniongyrchol â hwy y gobeithiaf y byddant yn parhau am amser maith. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, David Melding a'r Prif Weinidog. Mae Cymru'n cofio Srebrenica, ac mae ein Senedd yn gwneud hynny heddiw.