Datganiad Personol

Part of the debate – Senedd Cymru am 11:07 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 11:07, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Dychwelwn heddiw, wrth gwrs, i'r Siambr hon, rai ohonom, a chofiwn am Mohammad Asghar, a gollasom yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ar ran yr holl Aelodau, byddwn yn cofio’n annwyl heddiw am ein cyd-Aelod, Mohammad Asghar. 

Ond heddiw hefyd, yw'r diwrnod rydym yn croesawu Aelod newydd, Laura Anne Jones—ar ran y Senedd, croeso—Aelod newydd i’r lle hwn dros Ddwyrain De Cymru. Edrychwn ymlaen at eich cyfraniadau yma yn y Siambr. Felly, galwaf yn awr ar Laura Anne Jones i wneud ychydig o ddatganiadau.