Lleihau'r Risg o Heintiadau COVID-19

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:13 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 11:13, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Ddydd Llun, Lywydd, cadeiriais gyfarfod cyntaf grŵp i sefydlu fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol ar gyfer Cymru, fel y cynigiwyd ar y cyd gan Gyngres yr Undebau Llafur a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru. Bydd yn cynghori ar fesurau i leihau risg mewn lleoliadau caeedig, yn ychwanegol at y canllawiau helaeth a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer y sector.