Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:35 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 11:35, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, mae perchennog cartref gofal yn fy etholaeth wedi cysylltu â mi. Dywed fod ei weithwyr yn gweithio'n galed ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae am i Lywodraeth Cymru gadw at yr addewid a wnaed ym mis Mai y byddai pob gweithiwr mewn lleoliad gofal yn derbyn £500. Nawr, nid yw aros am San Steffan erioed wedi gwneud llawer o les i ni yng Nghymru, ac oes, mae angen i Drysorlys y DU ddod o hyd i'w gwmpawd moesol drwy sicrhau bod y taliad yn ddi-dreth. Ond mae rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gweithwyr yn derbyn y swm llawn o arian a addawyd iddynt, ni waeth beth y bydd San Steffan yn ei benderfynu. Ym mis Rhagfyr y llynedd, gwnaed addewid i feddygon y byddai'r GIG yn talu eu biliau treth am weithio goramser. A fyddwch chi, os bydd angen, yn cynnig yr un sicrwydd treth i ofalwyr fel nad ydynt ar eu colled?