1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:25 am ar 8 Gorffennaf 2020.
Felly, symudaf yn awr at y cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yr allwedd i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws ofnadwy hwn, a’i ddileu yn wir, yw rhaglen brofi Cymru a’i gallu i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl er mwyn hysbysu pobl yn well cyn iddynt wneud penderfyniadau am ryngweithio’n gymdeithasol. Rydym yn gwybod bod capasiti labordai yng Nghymru ychydig dros 15,000, sydd, fel y gwyddoch, yn dal i fod ymhell o'r 20,000 prawf posibl y dydd a argymhellwyd gan Lywodraeth Cymru yn y ddogfen 'Profi Olrhain Diogelu'. Yn wir, gwyddom mai cyfanswm nifer y profion yn ystod y 24 awr ddiwethaf oedd 3,054, sy'n golygu mai dim ond un rhan o bump o'r capasiti sydd wedi'i ddefnyddio. Ac yn fwy pryderus, yn ôl ffigurau swyddogol, ni chynhaliwyd unrhyw brofion ychwanegol rhwng 28 Mehefin a 5 Gorffennaf ar gyfer gweithwyr gofal iechyd ledled Cymru. Yn amlwg, mae hyn yn dangos y gellid ac y dylid gwneud mwy o brofion. Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym pam y mae lefelau profi yng Nghymru mor isel ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi lefelau profi ledled y wlad?
Wel, Lywydd, rwy'n credu y gallai'r Aelod fod wedi cydnabod y ffaith mai 15,000 o brofion yw'r nifer fwyaf a gawsom erioed ac mae wedi codi'n gyson iawn dros yr wythnosau diwethaf, a bydd mwy o gapasiti’n cael ei ychwanegu at hynny hefyd.
Rwy'n credu bod mater profi, fodd bynnag—nifer y profion a ddefnyddir—yn llawer mwy cymhleth nag y mae'n ei awgrymu, oherwydd yn sail i'w gwestiwn mae'r rhagdybiaeth fod mwy yn well yn awtomatig. Wrth i nifer yr achosion ostwng yng Nghymru, y gwir amdani yw y ceir llai o bobl â symptomau a daw llai o bobl i gael prawf, ac nid yw hynny'n beth drwg ynddo'i hun, oherwydd mae'n dangos i ni fod llawer iawn llai o’r coronafeirws yng Nghymru heddiw nag a oedd wythnos yn ôl, neu fis yn ôl, neu dri mis yn ôl. Felly, nid yw'n fater syml o ddweud, 'Os ydych yn cynnal mwy o brofion, rhaid eich bod yn gwneud yn well.'
Mae angen i chi ddefnyddio eich profion am y rheswm iawn. Mae angen i chi eu defnyddio yn y lle iawn. Mae gan bob lleoliad gofal iechyd fynediad uniongyrchol at brofion, felly lle mae clinigwyr yn credu bod angen cynnal profion, cânt eu cynnal, ac rydym yn cynnal mwy o brofion ar gleifion yn yr ysbyty nag erioed o'r blaen wrth i fwy o bobl ddychwelyd at agweddau eraill ar y gwasanaeth iechyd. Tra bod nifer yr achosion o’r clefyd yn gostwng, bydd llai o bobl â symptomau ac felly bydd llai o bobl yn gofyn am brawf, fel y gall pawb ei wneud. Felly, yr hyn rwy’n ei ddweud, Lywydd, yw ei fod ychydig yn fwy cymhleth na honiad syml sy’n nodi ei fod yn beth gwael os yw nifer y profion yn gostwng, a’i fod yn beth da os yw nifer y profion yn codi.
Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi’n glir fod gan Weinidogion Cymru bwerau trwy reoliadau i weithredu’n lleol i ailgyflwyno rhai cyfyngiadau er mwyn ymdrin â chlystyrau lleol. Mae'n gwbl hanfodol na chyfyngir ymhellach ar ryddid pobl, felly, os bydd Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg yn penderfynu cyflwyno cyfyngiadau symud lleol yn y dyfodol, mae'n rhaid dweud yn hollol glir wrth bobl Cymru yn union pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw, ynghyd â darparu'r dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf i gyfiawnhau penderfyniad Llywodraeth Cymru.
Felly, Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym pa drafodaethau rydych chi eisoes wedi'u cael gyda swyddogion iechyd cyhoeddus ynghylch y gallu i greu cyfyngiadau symud lleol pe bai'r dystiolaeth yn ddigon cryf i awgrymu bod y feirws yn lledaenu mewn cymunedau penodol ledled Cymru? A yw Llywodraeth Cymru wedi dechrau gwneud unrhyw waith modelu mewn perthynas â chyflwyno cyfyngiadau symud lleol yn y dyfodol a pha asesiad rydych chi wedi'i wneud o'r effaith y gallai gwahanol gyfyngiadau symud ei chael mewn gwahanol rannau o Gymru?
Wel, Lywydd, gadewch i mi ddechrau trwy gytuno â'r pwynt cyntaf a wnaeth yr Aelod. Nid wyf yn credu y dylem fyth gyfyngu ar ryddid pobl oni bai bod yr achos dros wneud hynny’n glir iawn a bod gennym dystiolaeth i gyfiawnhau hynny. Rwy'n hollol siŵr, pan wnaeth ei gymheiriaid gwleidyddol yn Llundain y penderfyniad hwnnw mewn perthynas â Chaerlŷr, fod y materion hynny ar flaen eu meddyliau ar y pryd, a byddem yn disgwyl dilyn yr un dull o weithredu.
Mewn perthynas â thystiolaeth, rwy'n awyddus iawn i'n gweld yn cyrraedd pwynt lle rydym yn gallu cytuno'n ffurfiol ar aelodaeth Cymru o gyd-ganolfan bioddiogelwch. Felly, trafodais y mater hwn gyda Michael Gove fore ddoe. Dyma'r corff a fydd yn dwyn gwybodaeth o bob math ynghyd, o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac yn rhoi'r dystiolaeth orau inni o ddatblygiadau lleol mewn perthynas â'r clefyd, a bydd honno ar gael ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, a byddant yn safonau cyffredin ac yn ddulliau cyffredin o weithredu, hefyd—y dystiolaeth a ddefnyddir, y sbardunau a nodir ac yn wir, rhai o'r dulliau a fydd yn cael eu gweithredu o ganlyniad i hynny. Rwyf bob amser wedi meddwl y byddai cyd-ganolfan bioddiogelwch yn rhywbeth a fyddai'n ddefnyddiol i ni yng Nghymru. O'r cyngor a gefais gan fy swyddogion, credaf ein bod yn agos at sefyllfa lle gallwn ymrwymo iddi'n ffurfiol, a phwysais ar Mr Gove ddoe i gyflymu'r trafodaethau hynny er mwyn inni allu cyrraedd y sefyllfa honno. Pan fydd gennym gyd-ganolfan—ac mae'r gair 'cyd' yn bwysig iawn; ni all fod yn gorff i'r DU y mae gweinyddiaethau datganoledig yn ddim ond atodiad iddo—rhaid iddi fod yn gyd-ganolfan wirioneddol a chredaf felly y bydd y wybodaeth y mae'n ei darparu yn mynd gryn dipyn o ffordd tuag at ateb llawer o'r cwestiynau y mae Mr Davies wedi'u gofyn i mi y bore yma.
Brif Weinidog, wrth i nifer yr achosion newydd barhau i ostwng ledled Cymru, bydd angen i Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol ddechrau edrych ar driniaethau a gwasanaethau eraill y GIG, ac fel y gwyddoch, roedd bron i 500,000 yn aros am driniaeth cyn y pandemig COVID-19. Nawr, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi rhybuddio y bydd oedi o ran llawdriniaethau eisoes wedi arwain at fwy o angen am lawdriniaethau cymhleth, ac mae’r British Heart Foundation hefyd wedi dweud, gan nad yw’r gwasanaethau ar gael o hyd, fod brys cynyddol am y triniaethau hyn, a bod hynny wedi creu carfan sylweddol o gleifion sydd angen triniaeth frys. Brif Weinidog, bydd hyn yn ei dro yn parhau i drethu capasiti’r GIG. Nawr, yng ngoleuni'r pryderon dilys iawn a godwyd gan sefydliadau fel Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a’r British Heart Foundation, pa drafodaethau strategol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda byrddau iechyd lleol i sicrhau y gellir cynnal llawdriniaethau brys a llawdriniaethau wedi’u cynllunio, ac y gall y gweithlu ymdopi â'r ôl-groniad o lawdriniaethau dewisol? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl ledled Cymru sy'n aros am driniaethau y byddant yn gallu cael mynediad at driniaethau a gwasanaethau'r GIG, a sut rydych yn cefnogi'r byrddau iechyd lleol i gyflymu'r broses o ailgychwyn llawdriniaethau wedi’u cynllunio ledled Cymru?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn pwysig. Ddydd Gwener, pan fyddaf yn gallu cyhoeddi canlyniadau'r cyfnod adolygu tair wythnos cyfredol, gobeithiaf allu egluro i bobl yng Nghymru i ba raddau rydym yn defnyddio'r lle rydym yn gobeithio sydd gennym i symud i barhau i lacio’r cyfyngiadau symud yng Nghymru, ac i ba raddau rydym yn defnyddio'r lle hwnnw i barhau i ailagor y GIG yma yng Nghymru, gan fod honno'n rhan bwysig o'r ffordd y mae’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio, agor mwy o'n gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Nid wyf am ddweud wrth yr Aelod nac wrth unrhyw un arall fod hon yn broses syml. Mae cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo i greu parthau gwyrdd, fel y'u gelwir, yn ein hysbytai—parthau heb goronafeirws—fel y gall llawdriniaethau ailddechrau, ac fel y gall pobl fod yn hyderus wrth ddychwelyd i'r lleoliadau hynny na fyddant mewn perygl o gael eu heintio gan bobl sy'n dioddef o'r afiechyd eisoes. Bydd hynny ynddo’i hun yn cyfyngu ar nifer y llawdriniaethau, er enghraifft, y gall theatr eu cyflawni mewn diwrnod, gan fod y lefelau bioddiogelwch sy'n angenrheidiol i atal coronafeirws rhag lledaenu yn real iawn, a byddant yn cael effaith gyfyngol, ar y gorau, ar y graddau y gall gweithgarwch ailddechrau. Ar yr un pryd, Lywydd, mae'r GIG yn gorfod paratoi at y gaeaf sydd o'n blaenau, tymor y ffliw sydd o'n blaenau, a'r rhybuddion y mae pob un ohonom yn eu clywed am don arall o'r coronafeirws dan amodau gaeaf. Felly, er bod ein cymheiriaid yn y GIG yn gwneud ymdrechion enfawr, fel y gwelir yn y cynlluniau ail chwarter y maent wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer ailagor y gwasanaeth iechyd, bydd angen cydbwyso llawer o alwadau sy'n cystadlu, ac ni ddylai unrhyw un gredu bod llwybr hawdd neu syml i'w gael yn ôl at y lefelau o weithgarwch y gallai’r GIG yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig eu cynnal cyn COVID.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Gaf i ar y dechrau ategu ar ran Plaid Cymru y sylwadau ynglŷn â'r hil-laddiad erchyll yn Srebrenica? Yn angof, ni chânt fod.
Brif Weinidog, mae perchennog cartref gofal yn fy etholaeth wedi cysylltu â mi. Dywed fod ei weithwyr yn gweithio'n galed ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae am i Lywodraeth Cymru gadw at yr addewid a wnaed ym mis Mai y byddai pob gweithiwr mewn lleoliad gofal yn derbyn £500. Nawr, nid yw aros am San Steffan erioed wedi gwneud llawer o les i ni yng Nghymru, ac oes, mae angen i Drysorlys y DU ddod o hyd i'w gwmpawd moesol drwy sicrhau bod y taliad yn ddi-dreth. Ond mae rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gweithwyr yn derbyn y swm llawn o arian a addawyd iddynt, ni waeth beth y bydd San Steffan yn ei benderfynu. Ym mis Rhagfyr y llynedd, gwnaed addewid i feddygon y byddai'r GIG yn talu eu biliau treth am weithio goramser. A fyddwch chi, os bydd angen, yn cynnig yr un sicrwydd treth i ofalwyr fel nad ydynt ar eu colled?
Lywydd, mae Adam Price yn codi pwynt pwysig, ac rydym yn parhau i drafod hynny gyda'r undebau llafur, yn arbennig. Ond byddai gwneud y penderfyniad hwnnw heddiw’n caniatáu i Lywodraeth y DU beidio â gwneud y peth iawn, gan y bydd unrhyw awgrym y byddwn ni yn ei dalu yn gwarantu na fyddant yn gwneud y peth iawn, ac fel y dywedwch, yn ailddarganfod eu cwmpawd moesol ar y mater hwn. Felly, rydym wedi parhau â'r hyn yr ystyriwn eu bod yn drafodaethau adeiladol yn ein barn ni gyda Thrysorlys y DU, i amlinellu ffyrdd y gellid gwneud y taliad hwn heb iddo fod yn agored i dreth ac yswiriant gwladol.
Ni chredaf y gellir dod â'r trafodaethau hynny i ben eto, a chaniatáu i Lywodraeth y DU gael ei hesgusodi rhag cyflawni’i chyfrifoldebau, a gwario mwy o arian Llywodraeth Cymru ar gyfrifoldebau y dylent hwy eu hunain fod yn eu cyflawni. Nid ydym yn gofyn iddynt am arian, fel y gwn fod Adam Price yn ei ddeall; rydym yn gofyn iddynt beidio â mynd ag arian sy'n eiddo i weithwyr Cymru.
Mae'r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y sector gofal, ac mae’n rhaid i mi ddweud, ar ôl darllen adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, at y ffaith ei fod hefyd yn cael ei esgeuluso. Mae contractau dim oriau a chyflog isel wedi bod yn rhai o nodweddion y sector gofal ers degawdau. Mae ymchwil PayScale yn amcangyfrif mai'r gyfradd fesul awr ar gyfartaledd, er enghraifft, yw £8.19. Does bosibl na ddylai gwerthfawrogi ein gweithwyr gofal ddechrau gyda strwythur tâl addas sy'n debyg i'r un a geir mewn proffesiynau eraill. Ym mis Chwefror, addawodd eich Llywodraeth y byddai staff y GIG ar y cyflogau isaf yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol, sef £9.30 yr awr. Oni ddylid defnyddio'r egwyddor honno nawr ar gyfer gweithwyr yn y sector gofal fel cam cyntaf i sicrhau cydraddoldeb â'r GIG? Yn wir, Brif Weinidog, a allwn fforddio peidio â gwneud hynny?
Wel, rwy'n cytuno ag Adam Price, Lywydd, fod yr argyfwng coronafeirws wedi tynnu sylw at y sector a'r ffordd nad yw wedi cael ei werthfawrogi’n iawn ers blynyddoedd lawer. Yn y pen draw, nid her i'r Llywodraeth yw hon; mae'n her i'n cymdeithas gyfan o ran i ba raddau rydym yn barod i dalu am lefelau addas o gyflog, ac amodau gwaith priodol i bobl yn y sector hwnnw. Ac mae un Llywodraeth ar ol y llall ar lefel y DU wedi methu cyflwyno cynigion ar gyfer talu am ofal cymdeithasol. Daethom yn agos iawn at hynny ar un adeg yn 2015 o ganlyniad i adolygiad Dilnot, ac yna ni chafwyd y ddeddfwriaeth angenrheidiol oherwydd etholiad cyffredinol, ac nid ydym wedi gallu dychwelyd at y pwynt hwnnw.
Mae Llywodraeth Cymru’n talu'n uniongyrchol am staff y GIG drwy’r byrddau iechyd, ac roeddwn yn falch iawn pan oeddwn yn Weinidog iechyd o allu taro bargen sydd wedi gwarantu bod y bobl ar y cyflogau isaf yn y gwasanaeth iechyd bob amser wedi cael y cyflog byw gwirioneddol ers hynny. Nid ni yw'r cyflogwr mewn perthynas â'r sector hwn. Ond rwyf am fod yn gadarnhaol yn fy ateb i gwestiwn Adam Price, gan fy mod yn cytuno ag ef y dylai’r coronafeirws olygu bod yn rhaid i ni, fel cymdeithas, fod yn barod i ddod o hyd i'r arian i sicrhau bod hwn yn sector sy'n cydnabod pwysigrwydd y gwaith y mae'n ei wneud bob dydd o'r flwyddyn.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a 13 undeb iechyd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Lloegr, fel y’i gelwir bellach, i ofyn am drafodaethau ynglŷn â chodiad cyflog cynnar ar gyfer y GIG. A wnewch chi arwain y ffordd a gwobrwyo staff ein GIG ni hefyd? Os yw'r argyfwng iechyd presennol wedi dysgu unrhyw beth inni, dylai gwerthfawrogi'r rheini sy'n gofalu amdanom ar bob adeg o ddechrau ein bywyd hyd ddiwedd ein hoes fod yn flaenoriaeth i unrhyw genedl ofalgar. Yn ystod eich cais am yr arweinyddiaeth, Brif Weinidog, fe ddywedoch chi na fyddech yn newid cyfraddau treth oni chaech eich gorfodi i wneud hynny. A ydych chi'n credu bellach fod gwaith caled gweithwyr iechyd a gofal yn ddigon o reswm i chi newid eich meddwl?
Lywydd, byddwn yn parhau yn y ffordd y gwnawn, drwy ysbryd partneriaeth gymdeithasol, i drafod gyda'r undebau iechyd a'r byrddau iechyd lleol mewn perthynas â chyflog ac amodau yn y gwasanaeth iechyd. Dyna'r ffordd rydym yn gwneud hynny, a dyna'r ffordd rydym yn bwriadu parhau i wneud hynny. Nid yw'r trafodaethau hynny bob amser yn hawdd, ac ni ddylent fod yn hawdd. Nid yw partneriaeth gymdeithasol yn drefn gysurus, ond mae'n lle i ddod at ein gilydd i geisio dod o hyd i atebion cyffredin i broblemau cyffredin, a dyna sut y byddwn yn mynd i'r afael â mater cyflogau gyda staff ein GIG. Ymrwymodd fy mhlaid, Lywydd, i beidio â chodi cyfraddau treth incwm yn ystod tymor y Senedd hon. Dyna yw ein safbwynt polisi o hyd.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Brif Weinidog, a ydych yn fodlon mai dau gyfle yn unig y mae'r Senedd hon, sy'n gweithredu o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, wedi eu cael i holi cwestiynu i chi wyneb yn wyneb dros gyfnod o chwe mis? A yw'n well gennych wynebu craffu drwy gynadleddau dyddiol i'r wasg, wedi eu darlledu'n fyw, heb unrhyw gyfle i’r gwrthbleidiau ateb? O gofio bod rhan helaeth o'r cyfryngau’n ddibynnol yn ariannol ar Lywodraeth Cymru, a ydych o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i'r darlledwr gwladol ein gorfodi i wrando arnoch yn traethu ar eich hoff gaws? A sut y gall fod yn gydnaws â siarter y BBC, gyda phob tegwch, neithiwr, er enghraifft, ar Ineos, fod BBC Wales wedi dangos y Gweinidog Llafur, arweinydd y cyngor Llafur, yr AS Llafur, a'r undeb sy'n cyllido Llafur, heb unrhyw ymateb o fath yn y byd gan y gwrthbleidiau? Rydych yn dweud mai eich blaenoriaeth yw adolygu pob enw stryd a phob cerflun yng Nghymru, i weld a ydynt yn gydnaws â gofynion sefydliad sydd am ddad-ariannu'r heddlu. Onid yw'n bryd dad-ariannu'r BBC?
Wel, Lywydd, nid oes ci yma, ond mae'r Aelod yn barod i chwibanu arno, ac mae’n gwneud hynny eto heddiw. Rwy'n ateb cwestiynau ar lawr y Senedd pryd bynnag y bydd y Senedd yn gofyn i mi wneud hynny, ac nid fy mhenderfyniad i yw pryd y dylai hynny ddigwydd, ac ni ddylai fod yn benderfyniad i mi. Rwyf wedi ateb cwestiynau drwy gydol argyfwng y coronafeirws bob tro y mae'r Senedd wedi gofyn i mi wneud hynny, mewn pwyllgorau neu yn y Cyfarfod Llawn, a dyna fy safbwynt.
Nid wyf yn gyfrifol am y BBC ac ni ddylwn fod chwaith. Nid yw'n ddarlledwr gwladol ar unrhyw ystyr, a dylai'r Aelod wybod yn well nag awgrymu ei fod, neu awgrymu nad yw'n iawn i ddarlledwr gyfweld y bobl sydd wedi eu hethol i gynrychioli pobl mewn ardal benodol, o ba blaid bynnag, ym mha bynnag ran o Gymru.
Felly, mae'r Prif Weinidog yn fodlon â'r craffu hwnnw—pedwar llais Llafur, dim un o leisiau'r gwrthbleidiau? Ac mae hynny ymhell o fod yr unig enghraifft. Os ydych yn dibynnu ar BBC Wales am eich newyddion, a llawer o’r sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu newyddion, byddai rhywun yn cael yr argraff, o dan ein harweinydd gwych, Mark Drakeford, y bu llwyddiant mawr yng Nghymru o ran rheoli’r argyfwng COVID. Onid y gwir amdani yw bod cyfraddau heintiau yng Nghymru wedi bod yn uwch nag yn Lloegr, ac yn sylweddol uwch nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, er gwaethaf llawer llai o brofi? Onid yw'n wir fod 1,097 o bobl wedi'u symud o ysbytai i gartrefi gofal heb eu profi? A chan ein bod yn sôn am San Steffan ac aros amdanynt hwy, ni welsom brofion yn cael eu cynnal mewn cartrefi gofal tan bythefnos neu dair wythnos ar ôl Lloegr a'r Alban. Onid y realiti yw bod y gwaith o reoli’r argyfwng COVID ac argyfwng yr economi wedi bod yn waeth yng Nghymru, ac y bydd pobl Cymru yn talu am hynny am gryn dipyn o amser?
Lywydd, fel y dywedais wrth yr Aelod, byddaf yn ateb cwestiynau ar lawr y Senedd hon pryd bynnag y bydd y Senedd yn gofyn i mi wneud hynny. Felly mater iddo ef, nid i mi, yw pa mor aml y mae hynny'n digwydd. Gwrthodaf yr hyn a ddywedodd yn llwyr. Mae yna bob amser bobl sy'n digwydd byw yng Nghymru y byddai’n well ganddynt pe na baent yn byw yma. Mae'r ateb i hynny yn eu dwylo hwy ac nid fy rhai i.