Gorchuddion Wyneb

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:23 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 11:23, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn chwerthinllyd ac yn ddryslyd cael ymagwedd wahanol y naill ochr a’r llall i'r ffin, yn enwedig pan ystyriwch gymaint o bobl sy'n teithio’n ddyddiol o un ochr i'r llall? A all y Prif Weinidog fy sicrhau y bydd yn rhoi’r gorau i fod yn wahanol a’i angen i fod yn wahanol i Loegr heb unrhyw reswm mwy nag i fod yn wahanol, a gwneud yr hyn y mae'r undeb Unite yn ei awgrymu ac adolygu'r canllawiau ar frys i fabwysiadu ymagwedd sy’n dangos mwy o synnwyr cyffredin?