Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:24 am ar 8 Gorffennaf 2020.
Lywydd, rwy'n croesawu'r Aelod yn ôl i'r Siambr, a chredaf ei bod newydd ddweud yr hyn a ddywedais, sef ein bod yn ei adolygu'n barhaus. Ac rwy'n effro iawn i effaith y ffin yma. Mae yna gamau gweithredu ar y naill ochr a’r llall i'r ffin. Nid yw'n fater o Loegr yn gwneud newid a bod rhaid i Gymru ddilyn. Byddai'n gwbl bosibl bod wedi cael sgwrs gyda Llywodraeth y DU lle gallem fod wedi cyrraedd safbwynt ar y cyd; yn anffodus, ni chynigiwyd y sgwrs honno i ni ar unrhyw adeg.
Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chysondeb ar hyd y ffin, ac mae hynny yn fy meddwl wrth inni adolygu ein safbwynt yn barhaus mewn perthynas â gorchuddion wyneb, a newidiadau eraill a wnaed mewn mannau eraill hefyd.