Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:37 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 11:37, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y sector gofal, ac mae’n rhaid i mi ddweud, ar ôl darllen adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, at y ffaith ei fod hefyd yn cael ei esgeuluso. Mae contractau dim oriau a chyflog isel wedi bod yn rhai o nodweddion y sector gofal ers degawdau. Mae ymchwil PayScale yn amcangyfrif mai'r gyfradd fesul awr ar gyfartaledd, er enghraifft, yw £8.19. Does bosibl na ddylai gwerthfawrogi ein gweithwyr gofal ddechrau gyda strwythur tâl addas sy'n debyg i'r un a geir mewn proffesiynau eraill. Ym mis Chwefror, addawodd eich Llywodraeth y byddai staff y GIG ar y cyflogau isaf yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol, sef £9.30 yr awr. Oni ddylid defnyddio'r egwyddor honno nawr ar gyfer gweithwyr yn y sector gofal fel cam cyntaf i sicrhau cydraddoldeb â'r GIG? Yn wir, Brif Weinidog, a allwn fforddio peidio â gwneud hynny?