Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:51 am ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch am y cwestiwn. Llywydd, mae codi’r gofyniad i aros yn lleol yn caniatáu i bobl deithio o amgylch Cymru. Mae atyniadau i ymwelwyr yn yr awyr agored yn gallu agor, ar yr amod eu bod nhw’n gwneud hynny'n ddiogel. Rydw i wedi nodi y dylai llety hunangynhaliol a darpariaeth lletygarwch awyr agored baratoi i ailagor yn yr wythnos sydd i ddod.