1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2020.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailagor y sector dwristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ55437
Diolch am y cwestiwn. Llywydd, mae codi’r gofyniad i aros yn lleol yn caniatáu i bobl deithio o amgylch Cymru. Mae atyniadau i ymwelwyr yn yr awyr agored yn gallu agor, ar yr amod eu bod nhw’n gwneud hynny'n ddiogel. Rydw i wedi nodi y dylai llety hunangynhaliol a darpariaeth lletygarwch awyr agored baratoi i ailagor yn yr wythnos sydd i ddod.
Diolch am yr ymateb yna. Dau beth hoffwn i eu codi. Yn gyntaf, apêl unwaith eto am ymestyn y gefnogaeth i fusnesau twristiaeth a lletygarwch. Mae colli cymaint o'u tymor yn golygu eu bod nhw yn barod wedi colli cyfran sylweddol o'u trosiant blynyddol, ac efo amser yn brin iawn i wneud i fyny am hynny, wrth gwrs.
Ond mae'r ail bwynt ynglŷn â natur twristiaeth. Mi fydd y Prif Weinidog yn gwybod, fel minnau, am y pryder gwirioneddol sydd yna am ddychweliad twristiaeth, achos dydy bygythiad y feirws ddim wedi diflannu. Felly, dwi'n cefnogi ymgyrch yn Ynys Môn, er enghraifft, i atgoffa twristiaid i gadw at fesurau i ddiogelu cymunedau ac i ymddwyn efo parch at bobl o'u cwmpas ac ati. Ond dwi hefyd yn meddwl bod rŵan yn gyfle i ailystyried natur y berthynas rhwng twristiaeth a'n cymunedau ni mewn ffordd mwy sylfaenol. Felly, a ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi, a chynrychiolwyr twristiaeth dwi wedi bod yn siarad efo nhw yn fy etholaeth i, bod angen defnyddio'r cyfnod yma i osod sylfeini am fath newydd o dwristiaeth, sy'n rhoi mwy o berchnogaeth a rheolaeth leol dros dwristiaeth, sy'n gwneud y sector yn fwy cynaliadwy, yn ymateb i bryderon lleol am effaith gordwristiaeth, ac yn uchafu budd economaidd lleol?
Wel, Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn diddorol yna. A jest i ddweud yn gyntaf: dwi'n cydnabod y ffaith bod twristiaeth yn bwysig iawn i bobl yn Ynys Môn. Y rheswm pam ein bod ni wedi symud yn ofalus, cam wrth gam, yw i sicrhau bod y sector yn barod i groesawu ymwelwyr nôl yn ddiogel, ac i wneud hynny drwy dynnu cymunedau gyda ni ar y daith yna. Ac mae'n bwysig i'r diwydiant weithio'n galed gyda'r bobl leol i baratoi ac i'w wneud e mewn ffordd ble mae llais pobl leol yn cael effaith ar natur y diwydiant. Mae beth mae Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud am y cyfle sydd gyda ni i ailfeddwl am hynny yn rhywbeth pwysig. A phan dwi wedi siarad gyda'r grŵp dŷn ni wedi'i dynnu gyda'i gilydd—a ches i gyfle i wneud hynny yn ddiweddar ar 18 Mehefin—un peth a oedd yn fy nharo i oedd y pwynt roedd pobl yn y grŵp yn ei godi, sef eu bod nhw'n awyddus i ddefnyddio'r cyfle sydd gyda nhw i ailgreu'r berthynas rhwng pobl sy'n gweithio yn y maes a phobl sy'n byw yn lleol. Dwi'n cytuno gyda beth roedd Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud am ddefnyddio'r cyfle sydd gyda ni ac i wneud pethau gyda'n gilydd ac yn ofalus dros yr wythnosau i ddod. Achos os ydyn ni'n ei wneud e'n llwyddiannus, bydd mwy dŷn ni'n gallu ei wneud i helpu'r sector yn y tymor sydd dal gyda ni ac i wneud mwy i helpu'r sector drwy ei wneud e fel yna.
Brif Weinidog, mae 24,000 o bobl yn gweithio ym maes bwyd a diod yn y diwydiant gweithgynhyrchu, gydag oddeutu 230,000 yn cael eu cyflogi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Mae oddeutu 3,700 o wahanol gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn manwerthu, ac mae'r sector lletygarwch yn gam hanfodol. A wnewch chi ystyried ailagor y sector lletygarwch dan do o 13 Gorffennaf, ond yn bwysicach fyth, eu hysbysu ynghylch hynny yn awr? Os nad ydych am wneud hynny, beth a ddywedwch wrth Gydweithfa Bwytai Annibynnol Cymru, y canfu ei harolwg fod disgwyl y bydd o leiaf 30,000 o swyddi'n cael eu colli yn y sector, a bod bron i hanner y ffigur hwn eisoes wedi eu colli? A allwch chi egluro i mi sut yr ystyrir ei bod yn ddiogel i blant fod mewn ystafelloedd dosbarth yn bwyta eu cinio, ond eto'n anniogel i oedolion eistedd mewn bwyty? Diolch.
Wel, Lywydd, credaf ei bod yn hawdd iawn esbonio'r gwahaniaeth: hyd y gwn i, nid yw alcohol yn cael ei weini mewn ysgolion yng Nghymru, tra byddai’n cael ei weini yn y cyd-destun y cyfeiria’r Aelod ato. Mae'r syniad fod modd cymharu'r pethau hyn rywsut yn amlwg yn chwerthinllyd pan ddechreuwch chi ei ystyried. Na, ni fyddaf yn ailagor lletygarwch dan do ar 13 Gorffennaf, ond rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda'r sector ac y bydd lletygarwch awyr agored yn ailagor yng Nghymru ar y dyddiad hwnnw. Yr hyn y byddwn yn ei wneud wedyn yw gweithio gyda'r sector i sicrhau eu bod yn cael llwyddiant wrth ailagor, eu bod yn cyflawni'r nifer o fesurau cymhwysol sydd ganddynt mewn ffordd ymroddedig a dychmygus iawn, yn cyflwyno—mesurau i liniaru effaith coronafeirws—ac ar yr amod ein bod yn gweld bod hynny'n digwydd yn llwyddiannus, byddwn yn gallu ystyried ailagor lletygarwch dan do.
Credaf mai’r hyn nad yw'r Aelod byth i'w gweld yn ei ddirnad yw na fydd pobl yn dychwelyd i ddefnyddio'r cyfleusterau hynny oni bai eich bod yn barod i wneud hyn mewn ffordd ofalus; ni fydd gan bobl hyder i ddod yn ôl i fwytai a chaffis a thafarndai yng Nghymru oni bai eu bod yn gwybod ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y lleoedd hynny’n ddiogel. Bydd yr wythnosau i ddod, pan wyf yn hyderus y bydd y sector yn cadw at yr addewidion y mae wedi'u gwneud, yn fuddsoddiad i sicrhau, pan fyddwn yn gallu ailagor lletygarwch dan do, y bydd gan bobl Cymru hyder i ddychwelyd ato, a bydd hynny o fudd i’r sector hwnnw a'r busnesau hynny.