Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:16 am ar 8 Gorffennaf 2020.
Brif Weinidog, sylwaf fod Sefydliad Iechyd y Byd yn debygol o addasu ei gyngor ar yr effaith cwmwl a gynhyrchir drwy anadlu ac y gall y gronynnau bach iawn sy'n cael eu cynhyrchu felly hongian yn yr awyr am oriau, ac maent yn arbennig o dueddol o wneud hynny mewn mannau bach fel toiledau lle ceir sychwyr dwylo, er enghraifft. A allwch chi ein sicrhau, wrth inni gael mwy o wybodaeth wyddonol am y clefyd hwn, y byddwch yn addasu eich canllawiau ar beth sy'n briodol i'w wneud, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y rhai y mae angen iddynt wybod—[Anghlywadwy.]—?