1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2020.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd gwaelodol sydd wedi gwneud rhai dinasyddion yn fwy agored nag eraill i COVID-19? OQ55434
Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn? Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb annerbyniol yng nghanlyniadau iechyd cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru, ac fel y gwelsom yng nghyd-destun COVID, yn y gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn arbennig. Mae lleihau anghydraddoldeb yn uchelgais canolog yn 'Ffyniant i Bawb' ac mae'n ganolog yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diolch, Brif Weinidog. Deiet gwael sydd wrth wraidd y broblem hon. Gwyddom fod y gweithgynhyrchwyr bwyd yn gwario biliynau o bunnoedd ar annog pobl i fwyta bwyd wedi'i brosesu sy'n llawn o fraster, siwgr a halen, ac rydym yn gwybod nad yw hyn yn faethlon wrth gwrs, a'i fod yn arwain at ordewdra, sydd wedyn yn arwain at ddiabetes, clefyd y galon ac at ganser yn wir, ac yn awr COVID-19. Felly, tybed pa fesurau y mae'r Llywodraeth yn eu hystyried i drawsnewid y system fwyd sy'n difetha ein bywydau, nid yn unig er mwyn gwella bwydo ar y fron a diddyfnu, ond cydymffurfiaeth hefyd â rheoliadau bwyd iach mewn ysgolion a mynd i'r afael ag ymgyrchoedd hysbysebu gwerth miliynau o bunnoedd y diwydiant bwyd sy'n annog pobl i fwyta'r pethau anghywir? Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi weld hysbyseb am lysiau?
Wel, Lywydd, gadewch i mi gytuno â Jenny Rathbone fod deiet gwael yn gynnyrch tlodi, a'r hyn sy'n arwain at ordewdra mewn teuluoedd tlawd yw'r ffaith na allant fforddio prynu deiet sy'n gytbwys ac sy'n cynnwys yr amrywiaeth y gall eraill ohonom ei gymryd yn ganiataol. Rydym yn mabwysiadu cyfres o wahanol fesurau i geisio mynd i'r afael â hynny. Nid yw'r holl ddulliau yn ein dwylo ni. Cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar hysbysebu yn gynharach y llynedd, ac yn ein cyfraniad i'r ymgynghoriad hwnnw, fe wnaethom annog Llywodraeth y DU i fod yn fwy gorfodol yn ei dull o weithredu, nid cynghori cwmnïau ar arferion gorau yn unig, ond ei gwneud yn ofynnol i beidio ag anelu hysbysebion, er enghraifft, at blant neu o amgylch ysgolion. Rydym yn ystyried yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar Fwyd, Tlodi, Iechyd a'r Amgylchedd a ryddhawyd ar 6 Gorffennaf, o'r enw 'Hungry for change: fixing the failures in food', ac mae hwnnw'n bendant yn tynnu sylw at gyfres o faterion y mae'r Aelod ei hun newydd eu dwyn i'n sylw. Mae nifer o argymhellion yn yr adroddiad hwnnw y byddwn eisiau pwyso arnynt yn y gwaith y byddwn yn ei wneud yma yng Nghymru yn rhan o'n hymgynghoriad ein hunain dros gyfnod yr hydref ar amgylchedd bwyd Cymru, sy'n cael ei gynllunio gan fy nghyd-Aelod Vaughan Gething.
Diolch i'r Prif Weinidog.