– Senedd Cymru am 12:07 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans.
Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i agenda heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y cyhoeddiad a'r datganiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Darren Millar. Mae Darren yn anarferol o dawel. [Chwerthin.] Darren? Darren Millar, a wnewch chi—?
Maddeuwch i mi. Diolch, Lywydd. A gaf fi alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda, Drefnydd? A gaf fi ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog ar ddyfodol swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sydd gennym yng Nghymru? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith da y mae'r swyddogion hyn wedi'i wneud ers iddynt gael eu penodi o ran ceisio sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei weithredu ar bob lefel ledled Cymru, ond mae'r cyllid ar gyfer y swyddi hyn yn dod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau eu bod yn cael eu cadw ar gyfer y dyfodol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech drefnu datganiad ar y mater hwnnw cyn gynted â phosibl.
Yn ogystal, a gaf fi alw am ddatganiad cyn gynted â phosibl ar y dreth trafodiadau tir? Rhagwelir yn eang y bydd gwyliau ar gyfer taliadau'r dreth stamp yng Nghymru—yn Lloegr yn hytrach, hyd at £500,000. Mae angen inni gael y farchnad eiddo i symud eto yma yng Nghymru cyn gynted ag sy'n bosibl. Mae'n ddangosydd da o iechyd economaidd. A byddwn yn falch o gael gwybod a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gwyliau ar gyfer y dreth trafodiadau tir hefyd er mwyn cefnogi'r farchnad eiddo yma, os cyhoeddir mesur o'r fath yn Lloegr. Diolch.
Diolch i Darren Millar am godi'r ddau fater hwnnw, ac ydw, rwy'n cydnabod gwaith da swyddogion cyswllt y lluoedd arfog. Fel y dywed Darren, mae'r cyllid ar gael iddynt tan ddiwedd tymor y Cynulliad hwn, neu'n sicr tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, a bydd y gwasanaeth penodol hwnnw, ynghyd â phob un arall, yn rhan o'r trafodaethau rydym yn eu cynnal cyn pennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ac wrth gwrs, mae gennym gyfle i drafod hyn yn eithaf manwl yn y ddadl y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi'i chyflwyno ar gyfer Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.
Ar y dreth trafodiadau tir, rwy'n awyddus iawn i glywed yr hyn sydd gan y Canghellor i'w ddweud yn niweddariad economaidd yr haf y prynhawn yma. Yn amlwg, mae yna bethau rwy'n awyddus iawn i'w glywed yn siarad amdanynt, o ran cefnogaeth i'r economi, i bobl ifanc ac yn y blaen. Byddaf yn rhyddhau datganiad erbyn diwedd y dydd yn nodi fy ymateb cyffredinol i'w ddatganiad. Yna, mewn perthynas ag unrhyw benderfyniadau manwl y bydd angen i mi eu gwneud wedyn ar yr ystod eang o faterion, byddaf yn gwneud hynny maes o law, ond yn amlwg, byddaf eisiau gwneud datganiadau cynnar ar bob peth o bwys.
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Trefnydd heddiw. Byddwn yn ddiolchgar pe gellid dod o hyd i amser i gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ar fater atebolrwydd gwleidyddol. Hoffwn glywed ei farn am ei rôl ei hun yn penderfynu pa wasanaethau hanfodol sydd ar gael ym mha rannau o Gymru, yn enwedig mewn perthynas â'r newyddion diweddar y bydd y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr a arweinir gan feddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei gadw. A oedd ganddo ef ran yn y penderfyniad hwnnw? Pa rôl sydd ganddo yn awr o ran recriwtio meddygon ymgynghorol, sy'n elfen allweddol i'r cynllun weithio? Beth yw statws rhaglen de Cymru, a oedd yn sbardun allweddol yn y penderfyniad blaenorol i gau'r adran ddamweiniau ac achosion brys? A hefyd, beth oedd ei rôl yn y penderfyniad i dalu swm chwe ffigur i gyn brif weithredwr bwrdd iechyd Cwm Taf ar ôl iddi ymddiswyddo yn sgil y sgandal gwasanaethau mamolaeth? Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod y materion atebolrwydd hyn yn haeddu cael eu craffu gennym, a bod y bobl yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniadau hyn yn haeddu atebolrwydd gwleidyddol hefyd.
Hefyd, hoffwn godi mater llifogydd. Yn Lloegr—
Mae eich amser ar ben, Leanne Wood. Rwy'n mynd i ofyn i'r Trefnydd ymateb.
Mae'r rheini'n gwestiynau manwl, y gwn y bydd yr Aelod eisiau eu codi'n uniongyrchol gyda'r Gweinidog iechyd. Wrth gwrs, mae gan y Gweinidog iechyd gwestiynau llafar y prynhawn yma, a gallai hwnnw fod yn gyfle i ddechrau trafod rhai o'r cwestiynau hynny.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Ineos i weithgynhyrchu'r model newydd yn Ffrainc, yn hytrach nag ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y cyhoeddwyd yn wreiddiol, o gofio bod y cyhoeddiad hwn yn ergyd drom i Ben-y-bont ar Ogwr ac i Gymru? Rwy'n deall bod Ineos wedi dechrau trafodaethau gyda Mercedes-Benz ar gyfer caffael safle ym Moselle yn Ffrainc. Gan fod prosiect Ineos wedi'i sicrhau gyda phecyn ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru ac Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a allai'r Gweinidog amlinellu'r opsiynau posibl sydd ar gael i Lywodraeth Cymru bellach, naill ai i ddychwelyd at y sefyllfa gynharach neu i adfer y cyllid a fuddsoddwyd hyd yn hyn?
Cawsom ein syfrdanu a'n siomi'n fawr gan y ffordd y cafodd y newyddion ei drosglwyddo i swyddogion yn dilyn yr holl waith caled a'r berthynas, rwy'n credu, a ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru a'n contractwyr wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y safle'n barod, yn unol ag amserlenni tynn Ineos, er gwaethaf llifogydd a COVID-19. Bydd cyfle i fynd ar drywydd y materion hyn yn fanylach yn y cwestiwn amserol, sydd wedi'i dderbyn gan y Llywydd, cwestiwn gan Carwyn Jones. Bydd yn gofyn y cwestiwn hwnnw i Weinidog yr economi y prynhawn yma.
Weinidog, byddwch wedi gweld adroddiadau yn y wasg heddiw fod Llywodraeth y DU yn bwriadu diddymu cynllun parcio am ddim y GIG a gyflwynwyd ganddynt yn Lloegr ar ddechrau argyfwng y coronafeirws. A all y Gweinidog gadarnhau heddiw, er mwyn osgoi'r angen am ddatganiad, nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i newid ei hymrwymiad hirsefydlog i ddarparu parcio am ddim i staff, cleifion ac ymwelwyr yn lleoliadau GIG yng Nghymru?
Rwy'n hapus iawn i ddarparu'r sicrwydd hwnnw nad oes gennym unrhyw gynlluniau o gwbl i newid ein hymrwymiad i ddarparu parcio am ddim i staff, ymwelwyr a chleifion mewn ysbytai yma yng Nghymru, a oedd, wrth gwrs, yn bolisi a gyflwynasom yn ôl yn 2008. Rydym yn awyddus iawn i weld y polisi hwnnw'n parhau.
Arweinydd y tŷ, a gaf fi ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Ddoe, cafodd diffygion y byrddau iechyd eu dileu gan y Gweinidog iechyd. Rwy'n rhyfeddu, oni bai ei fod wedi cyrraedd yn ystod yr awr ddiwethaf, nad ydym ni, fel Aelodau, wedi cael datganiad ar hyn—fe'i cyhoeddwyd yn y gynhadledd i'r wasg ddoe. Ni all hynny fod yn iawn. Nid wyf yn beirniadu unrhyw benderfyniad i leihau'r ddyled, ond cafodd dyled o £0.5 biliwn ei dileu ddoe. Ein rôl ni yw ymchwilio i hynny a'i brofi, a meddwl hefyd a yw'r Llywodraeth yn bwriadu dileu diffygion mewn awdurdodau lleol—[Anghlywadwy.]—neu gyrff cyhoeddus eraill. Ond yn absenoldeb unrhyw fath o ddatganiad heblaw'r datganiad i'r wasg ddoe, ni allwn wneud hynny. Felly, a gaf fi erfyn arnoch i ddod o hyd i'r datganiad hwnnw? Ni ddylwn orfod erfyn arnoch, ond a gaf fi ofyn i chi ryddhau'r datganiad hwnnw i'r Aelodau er mwyn inni allu deall beth yn union yw'r goblygiadau?
Ac yn ail, a gaf fi hefyd ofyn am ddatganiad gennych, drwy eich rôl fel Gweinidog cyllid, ar y modd y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn defnyddio'r cynllun ffyrlo? Yn amlwg, mae cyrff cyhoeddus wedi bod o dan bwysau mewn perthynas â chostau. Mae'r cynllun ffyrlo wedi diogelu llawer o swyddi ar draws pob sector, ond byddai llawer o'r cyrff cyhoeddus eisoes wedi cael arian yn y setliadau cyllideb ar gyfer eleni i dalu am y swyddi hynny, yn lle cael arian cyhoeddus ddwy waith a defnyddio'r cynllun ffyrlo hefyd. Rwy'n cael fy arwain i gredu bod rhai awdurdodau lleol wedi rhoi cynifer â 500 o weithwyr ar y cynllun ffyrlo tra'n derbyn yr arian hwnnw yn eu setliad gennych chi fel Gweinidog cyllid, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru. Felly, a gawn ni ddatganiad i ymhelaethu ar eich dealltwriaeth o'r defnydd a wneir o'r cynllun ffyrlo yn y sector cyhoeddus?
Diolch i Andrew R.T. Davies am godi'r ddau fater hwnnw. Eto, fel y soniais o'r blaen, mae gan y Gweinidog iechyd gwestiynau heddiw, felly bydd cyfleoedd i drafod eich cwestiwn penodol ynglŷn â dileu diffygion y byrddau iechyd. Ond unwaith eto, bydd cyfle i mi siarad â'r Gweinidog iechyd fy hun a throsglwyddo'r cais am ddatganiad ar y mater penodol hwnnw.FootnoteLink
Ac yna, ar y cynllun ffyrlo, ceir canllawiau gan Lywodraeth y DU sy'n dweud ym mha amgylchiadau y dylai cyrff y sector cyhoeddus ddefnyddio ffyrlo. Ni ddylid ei ddefnyddio ac eithrio mewn nifer gymharol fach o amgylchiadau yng Nghymru, a chredaf fod hynny wedi digwydd mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, mae awdurdodau lleol nad ydynt wedi gallu adleoli staff i rolau eraill wedi gallu ei ddefnyddio, ond ar nifer gymharol fach o achlysuron yn unig y cafodd ei ddefnyddio. Ond rwy'n hapus i ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion am hynny.
Gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog plant a gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â chynlluniau chwarae plant oedran ysgol dros wyliau'r haf? Tra'n croesawu'r ffaith y bydd yna ddarpariaeth ar gyfer plant bregus, mae'n siomedig iawn na fydd yna lefydd ar gael i blant gweithwyr allweddol. Mae gwaith rhieni y plant yma yn parhau i fod yn gwbl greiddiol i'r ymdrechion i gael y gwasanaeth iechyd yn ôl ar ei thraed, ac mae'n anffodus iawn nad ydy'r plant yma'n cael eu cynnwys yn y cohort o blant fydd yn cael y ddarpariaeth dros yr haf. Felly, byddwn i'n hoffi datganiad i'r perwyl y bydd y cohort o blant yma'n cael eu cynnwys hefyd. Dydyn ni ddim yn siarad am arian mawr yn fan hyn.
Gwn fod datganiad wedi'i gyhoeddi'n gynharach yr wythnos hon a oedd yn nodi rhai o'r paramedrau ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant a chwarae a ddarperir dros yr haf, ond byddaf yn gwneud yn siŵr heddiw fy mod yn cael cyfle i siarad â'r Dirprwy Weinidog a sicrhau ei bod yn ymwybodol o'r cais hwnnw am ddatganiad penodol ynghylch plant gweithwyr allweddol dros yr haf.
Drefnydd, erbyn mis Medi, tri diwrnod yn unig fydd ein plant wedi'u cael yn yr ysgol mewn chwe mis. Mae eu haddysg yn dioddef, ac mae eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol yn dioddef hefyd. Mae plant agored i niwed ar ei hôl hi mewn sgiliau allweddol, ac os nad yw ein plant yn mynd yn ôl yn llawn ym mis Medi, gallai rhieni golli swyddi hefyd, am na fyddant yn gallu dychwelyd i'r gwaith. Dyddiau yn unig sydd gan ysgolion i fynd cyn diwedd tymor yr haf i gynllunio ar gyfer tymor yr hydref. Rydym wedi bod yn y tywyllwch yn rhy hir yma yng Nghymru. Felly, a all y Gweinidog addysg ddarparu datganiad clir cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda i nodi sut olwg fydd ar addysg ym mis Medi?
Rwy'n cymryd y cyfle hwn i groesawu Laura Anne i'r Senedd—neu yn ôl i'r Senedd, dylwn ddweud—ac edrychaf ymlaen at eich cyfraniadau yn y datganiad busnes.
Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r sector addysg, yr awdurdodau lleol, yr undebau llafur ac yn y blaen i bennu'r ffordd ymlaen o ran dychwelyd i ysgolion. Wrth gwrs, Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi sicrhau y caiff pob plentyn gyfle i ddychwelyd i'r dosbarth am beth amser o leiaf cyn gwyliau'r haf, sy'n bwysig yn fy marn i o ran ailgysylltu ac ailsefydlu'r cysylltiadau hynny. Y Gweinidog sy'n ateb cwestiynau nesaf y prynhawn yma, a gwn ei bod yn awyddus i sicrhau bod cyd-Aelodau yn gwybod cymaint â phosibl am y cynlluniau ar gyfer mis Medi.
Hoffwn gael datganiad gan y Gweinidog plant. Cefais gyfarfod yn ddiweddar, y diwrnod o'r blaen, ar Zoom gyda nifer o famau, gyda nain ac un tad, ac roedd y plant i gyd mewn gofal. Y broblem gyffredin yw bod yr adroddiadau sy'n cael eu cyflwyno gerbron llysoedd i alluogi plant i gael eu gosod mewn gofal yn anghywir, dro ar ôl tro. Rwyf wedi gweld y gwallau; nid yw'r system yn eu nodi, caiff plant eu rhoi mewn gofal, sy'n esbonio, yn fy marn i, y gwahaniaeth mawr rhwng nifer y plant sydd mewn gofal yng Nghymru a nifer y plant sydd mewn gofal yn Lloegr. Felly, fy nghwestiwn a phwrpas y datganiad yw: beth y gall y Gweinidog ei wneud, o ran polisi, i sicrhau bod yr adroddiadau hyn, sy'n cael effaith enfawr ar fywydau pobl—? Roeddwn yn siarad ar-lein y diwrnod o'r blaen â mamau a oedd wedi cael eu llethu'n llwyr. Beth y gellir ei wneud i sicrhau bod gwallau'n cael eu cywiro cyn i'r plant gael eu rhoi mewn gofal?
Wel, mae'r mater y mae Neil McEvoy yn ei godi yn amlwg yn ddifrifol iawn o ran sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei chyflwyno yn yr achosion hynod bwysig hyn. Felly, a gaf fi ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog gyda mwy o fanylion am ei brofiadau a'r trafodaethau a gafodd yn ei alwad gyda mamau a neiniau a theidiau er mwyn inni ddeall y problemau y mae'n eu disgrifio yn well?
David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi gallu fy ngalw. Drefnydd, a gaf fi alw am ddadl yn amser y Llywodraeth ar adolygiad Cumberlege, a gyhoeddir heddiw o dan y teitl 'First Do No Harm'? Rwy'n atgoffa'r Aelodau ei fod yn ymwneud â defnyddio triniaethau meddygol a mewnblaniadau amrywiol, fel mewnblaniadau rhwyll. Ac er ei fod wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth y DU, roedd Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn rhanddeiliaid a chynhaliwyd digwyddiad i gleifion yng Nghaerdydd. Mae wedi datgelu llawer o bethau sy'n gofyn am ddadl lawn, rwy'n credu, yn enwedig holl fater mynediad cyfartal menywod at wasanaethau iechyd addas at y diben, ac un o brif gasgliadau'r adroddiad yw ein bod angen comisiynydd diogelwch cleifion. Mae'r rhain yn faterion pwysig iawn. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod sydd eisoes wedi cael gohebiaeth gan etholwyr yn gofyn i Lywodraeth Cymru a ninnau yma yn y Senedd archwilio argymhellion yr adroddiad hwn yn drylwyr. Felly, a allem gael dadl, os gwelwch yn dda, yn amser y Llywodraeth, cyn gynted ag y bo modd?
Mae hwn yn adroddiad difrifol iawn yn wir, gyda chasgliadau pwysig. Gwn fod y Gweinidog iechyd wedi croesawu adroddiad y tîm adolygu, sydd, fel y dywed David Melding, yn ymwneud yn bennaf â Lloegr, ond yn sicr bydd ganddo oblygiadau ar gyfer ymarfer clinigol yma yng Nghymru. Gwn fod y Gweinidog yn bwriadu mynd ati'n ofalus i asesu'r argymhellion a'r casgliadau mewn perthynas ag ymarfer cyfredol yma yng Nghymru, ac yna bydd yn ystyried a ddylent gael eu mabwysiadu gan y GIG yng Nghymru cyn y bydd yn cyhoeddi ei ymateb. Ond mae'n gyfarwydd iawn â'r adroddiad ac mae'n croesawu'r gwaith sy'n sail iddo.
Diolch i'r Trefnydd.