Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:44 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 11:44, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, fel y dywedais wrth yr Aelod, byddaf yn ateb cwestiynau ar lawr y Senedd hon pryd bynnag y bydd y Senedd yn gofyn i mi wneud hynny. Felly mater iddo ef, nid i mi, yw pa mor aml y mae hynny'n digwydd. Gwrthodaf yr hyn a ddywedodd yn llwyr. Mae yna bob amser bobl sy'n digwydd byw yng Nghymru y byddai’n well ganddynt pe na baent yn byw yma. Mae'r ateb i hynny yn eu dwylo hwy ac nid fy rhai i.