Addysg Cyfrwng Cymraeg

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 12:53 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 12:53, 8 Gorffennaf 2020

Diolch am yr ateb yna, Weinidog. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi cysylltu â mi ynghylch eu hymgyrch nhw i fynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth o addysg Gymraeg yn yr ardal. Ar hyn o bryd, dim ond dwy ysgol gynradd sydd yno, a does dim ysgol uwchradd o gwbl—sefyllfa gwbl annheg ar blant yr ardal. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg eisiau gweld ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei hagor, yn ogystal ag ysgol gynradd ychwanegol. Ers iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch lai na blwyddyn yn ôl, maen nhw wedi gwneud camau breision. Mae trafodaethau gyda'r cyngor am agor ysgol gynradd newydd yn gadarnhaol, mae'r fforwm addysg Gymraeg wedi cwrdd yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo, ac mae cynlluniau ar y gweill i gynhyrchu deunydd i hyrwyddo addysg Gymraeg ymysg rhieni, yn ogystal â threfnu digwyddiadau. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â fi i longyfarch RhAG am eu gwaith campus hyd yma, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ddangos brwdfrydedd dros eu helpu nhw? Ac a allwch chi fy sicrhau i y byddwch chi fel y Gweinidog Addysg yn cynnig pob cefnogaeth bosib er mwyn galluogi Rhieni dros Addysg Gymraeg a'r cyngor i agor ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd ym Merthyr?