3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2020.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Merthyr Tudful? OQ55422
Diolch, Delyth, am y cwestiwn.
Clustnodwyd buddsoddiad cyfalaf o £1.83 miliwn i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym Merthyr Tudful. Rydym yn talu costau llawn y prosiectau hyn i wneud y defnydd gorau o'r cyllid sydd ar gael. Mae'r awdurdod hefyd wedi derbyn £661,000 o'r grant lleihau maint dosbarthiadau babanod, hefyd i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg.
Diolch am yr ateb yna, Weinidog. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi cysylltu â mi ynghylch eu hymgyrch nhw i fynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth o addysg Gymraeg yn yr ardal. Ar hyn o bryd, dim ond dwy ysgol gynradd sydd yno, a does dim ysgol uwchradd o gwbl—sefyllfa gwbl annheg ar blant yr ardal. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg eisiau gweld ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei hagor, yn ogystal ag ysgol gynradd ychwanegol. Ers iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch lai na blwyddyn yn ôl, maen nhw wedi gwneud camau breision. Mae trafodaethau gyda'r cyngor am agor ysgol gynradd newydd yn gadarnhaol, mae'r fforwm addysg Gymraeg wedi cwrdd yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo, ac mae cynlluniau ar y gweill i gynhyrchu deunydd i hyrwyddo addysg Gymraeg ymysg rhieni, yn ogystal â threfnu digwyddiadau. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â fi i longyfarch RhAG am eu gwaith campus hyd yma, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ddangos brwdfrydedd dros eu helpu nhw? Ac a allwch chi fy sicrhau i y byddwch chi fel y Gweinidog Addysg yn cynnig pob cefnogaeth bosib er mwyn galluogi Rhieni dros Addysg Gymraeg a'r cyngor i agor ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd ym Merthyr?
Diolch, Delyth. Fel y dywedais yn fy ateb i'ch cwestiwn cyntaf, mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r prosiectau y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â hwy yn llawn. Bydd y grant o £1.83 miliwn yn cefnogi’r gwaith o ad-drefnu Ysgol Rhyd-y-grug i ddarparu ar gyfer dwy ystafell ddosbarth ychwanegol ac i gynyddu darpariaeth feithrin a chyn-feithrin. A bydd y grant hefyd yn ariannu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gyda lle i 210 o ddisgyblion, gan ddarparu lleoliad blynyddoedd cynnar a gofal plant cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal. Mae'r grant lleihau maint dosbarthiadau babanod wedi'i ddyrannu i Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful hefyd i ddarparu estyniad annibynnol i ddwy ystafell ddosbarth ychwanegol, gan gynnwys lobi a thoiledau newydd, a bydd yr hen adeilad dros dro yn cael ei symud i greu man chwarae awyr agored i gefnogi'r cyfnod sylfaen.
Felly, yn amlwg, mae'r grantiau cyfalaf y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi i Ferthyr Tudful yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n ymgyrchu ym Merthyr Tudful a'r cyngor am ymgysylltu mor gadarnhaol â'n rhaglen gyfalaf i sicrhau bod y prosiectau hyn ar gael, ac fel rydym wedi'i weld mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, pan fyddant ar gael, rwy'n siŵr y bydd rhieni'n gwneud penderfyniad cadarnhaol iawn i ddewis addysg Gymraeg ar gyfer eu plant.
Weinidog, rhaid inni sicrhau bod ein targedau addysg iaith Gymraeg uchelgeisiol ym Merthyr Tudful, ac ar draws Cymru, yn cael eu cyflawni, ac mae'n bwysig bod buddion addysg yn Gymraeg yn cael eu rhoi i'n holl blant ym mhob cymuned. A allaf ofyn, felly, a fydd y Gweinidog yn rhoi cefnogaeth bellach i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, gan fod datblygiad tir pwysig wedi cwympo drwodd gan effeithio'n sylweddol ar eu cynlluniau? Efallai y bydd angen tipyn bach mwy o help i gyflawni ein targedau uchelgeisiol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan weithio hefyd gyda grwpiau fel Rhieni dros Addysg Gymraeg Pen-y-bont.
Diolch am hynny, Huw. A gaf fi roi sicrwydd i’r Aelodau ein bod wedi datblygu dangosfwrdd i roi trosolwg o'r sefyllfa ar draws yr holl awdurdodau lleol yn dilyn COVID-19, ac mae'r dangosfwrdd yn nodi bod awdurdodau lleol ar y trywydd iawn i gyflawni targedau eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Yn amlwg, os oes pryderon ynghylch gallu awdurdod lleol unigol i gyflawni'r targedau sydd wedi'u cynnwys yn eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg, bydd ein swyddogion yn awyddus i gael sgwrs gyda hwy i ddeall beth yw'r rhwystrau i gyflawni'r nodau yn y cynlluniau hynny.