Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 12:49 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch. Tri deg miliwn—dydy hynny ddim yn mynd i fynd yn bell iawn, er gwaethaf rhyw gyhoeddiadau mawr a oedd yn cael eu gwneud gan y Torïaid yn Lloegr yn ddiweddar. Y bwlch digidol: dyma fater arall sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y pandemig—yr anfantais ddigidol y mae rhai myfyrwyr, disgyblion yn dioddef o ran dyfeisiadau a chysylltedd. Mae un arolwg dwi wedi ei weld yn ddiweddar gan Grŵp Llandrillo Menai yn dangos bod 30 y cant o'r myfyrwyr yn teimlo eu bod nhw dan anfantais—hynny yw, eu bod nhw'n methu cael mynediad digonol i ddysgu o bell er mwyn cwblhau eu hastudiaethau nhw, gan nad yw'r cyfarpar neu'r band eang, neu'r ddau, ddim ganddyn nhw. Mae 30 y cant o bobl ifanc yn ffigur mawr, fyddwn i'n tybio, pan fyddwch chi'n meddwl ar draws Cymru. A thybed a fyddai arolwg tebyg ymhlith myfyrwyr addysg uwch yn dangos yr un thema, neu a ydy hyn yn tanlinellu, a dweud y gwir, statws sinderela addysg bellach yng Nghymru? Felly, hoffwn i wybod beth ydy'ch cynlluniau chi i gau'r bwlch digidol yn y sector addysg bellach yn arbennig.