3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 12:32 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, hefyd.
A gaf fi ychwanegu fy llais at y rheini sydd wedi llongyfarch ysgolion a'r athrawon, y staff, yn ogystal â rhieni a theuluoedd, ac yn wir, rhai o swyddogion y cynghorau hefyd, sydd wedi cyfrannu at allu agor ysgolion yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac yn enwedig y rheini sy'n benderfynol o fynd am y bedwaredd wythnos honno?
Hoffwn ddechrau heddiw, fodd bynnag, gyda'r cwestiynau a godwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch hawl plentyn i addysg, yn gyffredinol, ac efallai y gallwch ddweud wrthym a yw eich polisïau a'ch rheoliadau wedi bod yn destun asesiad o’r effaith ar hawliau plant. Ond roeddwn yn arbennig o awyddus i ganolbwyntio ar ei hanogaeth i chi fod yn glir ynghylch eich cynlluniau ar gyfer mis Medi. Clywais yr hyn a ddywedoch chi wrth eraill yn y Siambr heddiw, ond mae ysgolion a chynghorau Cymru wedi gweld bod tair gwlad arall y DU eisoes wedi cyhoeddi eu canllawiau ar gyfer y tymor nesaf. Ddoe, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fe ddywedoch chi wrthym eich bod yn aros am y wyddoniaeth ddiweddaraf ar drosglwyddiad COVID-19 cyn i chi gyhoeddi eich canllawiau, er fy mod yn credu bod rhanddeiliaid yn ystyried drafft cyn hynny. A wnaethoch chi ofyn am yr adroddiad ar y wyddoniaeth honno, neu a oedd ar ei ffordd beth bynnag, ac a oeddech yn rhagweld y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r canllawiau roeddech eisoes wedi'u paratoi a'u darparu ar ffurf ddrafft? Os gwnaethoch, pam fod yr haen ganol yn dal i edrych dros ddrafft ddydd Llun, ac os na wnaethoch, pam na wnaethoch gyhoeddi’r canllawiau hynny yn gynharach, gyda chafeat priodol ar gyfer rhai mân newidiadau, fel y gallai ysgolion a chynghorau fwrw ymlaen â rhywfaint o waith paratoi fan lleiaf, gan gofio bod eu hamser i weithredu bellach mor fyr?
Yn gyntaf, yn ôl fy nealltwriaeth i, er y bu cyhoeddiad yn yr Alban y bydd yr holl blant yn dychwelyd i'r ysgol heb unrhyw fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mis Awst, ni chafwyd unrhyw ganllawiau gan Lywodraeth yr Alban i gefnogi'r penderfyniad hwnnw. Mae hynny'n adlewyrchu'r materion cymhleth iawn y mae Gweinidogion ledled y Deyrnas Unedig a minnau'n mynd i'r afael â hwy, yn enwedig wrth i'r wyddoniaeth a'r ddealltwriaeth ynglŷn â sut y mae'r afiechyd yn ymddwyn barhau i esblygu.
Cawsom rywfaint o rybudd y byddai papurau gwyddonol newydd ar gael i'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ddiwedd yr wythnos hon. Gwnaethom ofyn i'r papurau hynny gael eu hanfon at Lywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl, fel y gallem eu hystyried yn ein cynlluniau. Nid oeddwn am wneud datganiad, a bod digwyddiadau'n achub y blaen arno pe bai gwyddoniaeth bellach yn dod ar gael. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn meithrin hyder ymysg staff, ac yn hollbwysig, ymysg rhieni ein bod yn gweithredu yn unol â’r cyngor gwyddonol diweddaraf.
Drwy gydol y broses hon, rydym wedi dweud mai ein nod fyddai sicrhau cymaint â phosibl o gyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer ein plant, a lleihau tarfu, a gwn fod ysgolion wedi paratoi canllawiau gweithredol ar gyfer ystod o senarios, a bydd yn rhaid parhau i adolygu’r cynlluniau hynny, ni waeth pa ddatganiad y gallaf ei wneud erbyn diwedd yr wythnos hon, gan fod y ffordd y mae'r afiechyd yn ymddwyn yn ein cymuned yn allweddol er mwyn datgloi cyfleoedd addysgol i blant. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fod penderfyniadau a wneir o fewn yr adran yn destun asesiad hawliau integredig.
Iawn, mae hwnnw’n sylw diddorol, yr un olaf hwnnw, oherwydd yn sicr, fy nealltwriaeth i yw nad yw amryw reoliadau sydd wedi dod drwy bwyllgor gwahanol wedi cael yr asesiadau hynny o hawliau o reidrwydd.
Tybed a allwch fod o gymorth inni ar fater tebyg, sy'n ymwneud â dysgu cyfunol, gan fod rhywfaint o ddryswch ynglŷn ag a fydd mis Medi yn amgylchedd dysgu cyfunol ai peidio. Fy nealltwriaeth i yw eich bod wedi rhoi rhywfaint o eglurder ynghylch hyn drwy ddweud mai addysgu wyneb yn wyneb, pan fydd plant yn dychwelyd ym mis Medi, yw'r hyn rydych yn anelu ato, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n tawelu meddwl rhai rhieni pryderus. Rydych yn edrych arno'n fwy fel offeryn ychwanegol, a fydd mewn rhai achosion unigol yn diwallu anghenion plentyn yn well na phresenoldeb yn yr ysgol yn unig o bosibl.
Dywedodd eich swyddogion wrthym ddoe nad yw athrawon yn gyfarwydd â’r ffordd hon o addysgu, ond eu bod wedi elwa’n ddiweddar iawn o gyngor a oedd yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan y consortia, sy’n galonogol yma yn fy marn i, ond yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, nid oedd y gwaith casglu data hwnnw ar yr hyn roedd ysgolion yn ei wneud ers mis Mawrth wedi dechrau'n iawn tan ddiwedd mis Mai, pan anogwyd y consortia i wneud y gwaith hwnnw, gyda’u hadroddiadau'n cael eu hanfon atoch wedyn erbyn 19 Mehefin, dros bythefnos yn ôl. Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithaf hir bellach, felly credaf y dylech fod mewn sefyllfa i ddweud wrthym heddiw beth y mae'r adroddiadau hynny wedi'i ddweud wrthych, nid yn unig am faint, ond am ansawdd y cynnig sy'n cael ei wneud gan ysgolion unigol, yr adborth gan ysgolion i ddisgyblion o ran eu dysgu yn ogystal â'u llesiant, a pha mor gyflym y mae ysgolion wedi gallu nodi a mynd i'r afael â bylchau yn yr hyn roeddent yn ei wneud hyd eithaf eu gallu yn eu hamgylchiadau presennol.
Diolch, Suzy. Credaf y bydd dysgu cyfunol yn parhau i chwarae rhan mewn addysg yng Nghymru mewn sawl ffordd, ond yn amlwg, fel y nodoch chi, yn gwbl gywir, fy nod yw cynyddu cyswllt wyneb yn wyneb rhwng plant ac athrawon yn eu hysgolion, ond mae'n rhaid i ni nodi’r pethau cadarnhaol yn yr argyfwng rydym ynddo, ac i rai o'r staff, ac yn wir i rai o'r plant, mae'r dull dysgu cyfunol neu'r dull dysgu o bell wedi bod o fudd iddynt. Mae'n adeiladu, wrth gwrs, ar y gwaith pwysig sydd gennym yn y prosiect e-ysgolion, rhywbeth y bydd y Llywydd yn gyfarwydd iawn ag ef. Mae'r dull dysgu cyfunol hwnnw'n ein helpu i oresgyn rhai o'r anfanteision logistaidd y gall plant eu hwynebu am eu bod mewn dosbarthiadau bach, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Felly, mae angen i ni nodi’r daioni sydd wedi deillio o'r argyfwng hwn, ac a fydd yn ein helpu i lywio polisi wrth inni symud ymlaen, ac i rai plant, yn enwedig plant sydd efallai’n ei chael hi'n anodd neu'n heriol yn yr ysgol, bydd cefnogi eu dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd yn bwysig iawn wrth inni symud ymlaen.
Rwy'n awyddus iawn i ddeall yr hyn sydd wedi bod yn digwydd mewn ysgolion unigol. Rwyf wedi bod yn ddi-flewyn-ar-dafod ynglŷn â hyn: mae’r perfformiad wedi bod yn gymysg. Mae rhai ysgolion wedi gallu mynd i’r afael â’r her hon yn well nag eraill, ac yn wir, mae rhai teuluoedd wedi gallu rhyngweithio â'u hysgolion yn well nag eraill. Fel y gwnaethom drafod yn y pwyllgor ddoe, rydym wedi ceisio cymryd camau cadarnhaol iawn, camau llwyddiannus, mewn perthynas ag anfantais ddigidol, ac mae arferion da ar ran addysgu wedi cael eu hategu gan ganllawiau ynghylch parhad dysgu gan y Llywodraeth, ac mae'r arferion da hynny a gasglwyd gan Estyn a’r consortia rhanbarthol bellach yn cael eu defnyddio i lywio arferion gorau ar draws ysgolion. Rydym hefyd wedi gallu darparu hyfforddiant, drwy'r consortia rhanbarthol, i staff allu deall a defnyddio ein platfform dysgu digidol, Hwb, i'r graddau mwyaf posibl. Oherwydd y sefyllfa ar Ynys Môn, er enghraifft, bu modd i mi gyfarfod yn ddiweddar â chynrychiolwyr penaethiaid Ynys Môn, a dywedasant eu bod wedi elwa'n fawr o'r gweminarau a'r hyfforddiant proffesiynol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a chonsortiwm GwE i'w staff i allu cefnogi dysgu cyfunol a dysgu o bell yn y ffordd orau.
Diolch am eich ateb. Credaf y bydd rhai athrawon llanw ar Ynys Môn yn awyddus i siarad â chi hefyd. Ni chredaf fod amheuaeth fod athrawon a staff ysgolion, a rhieni a disgyblion, wedi ymateb i'r her hon dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond mae pawb bellach yn dechrau colli amynedd, fel rydym eisoes wedi clywed. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw nad wyf yn credu y dylai athrawon, ysgolion a staff ysgolion yn arbennig fod wedi bod ar eu pennau eu hunain yn hyn o beth. Nid yw rôl y consortia i gefnogi’r gwaith o wella ysgolion wedi diflannu yn ystod y cyfnod hwn, a ni waeth pa mor bell rydym wedi mynd oddi wrth y cwricwlwm, a pha mor wahanol bynnag yw'r profiad o gael rhieni i chwarae'r rôl fwy o lawer hon yn y gwaith o ddarparu addysg, nid oes unrhyw rheswm dros roi’r gorau’n gyfan gwbl i roi sylw i safonau. Rwyf wedi bod braidd yn bryderus ynghylch arafwch y consortia a swyddogion awdurdodau lleol sydd â rôl mewn gwella ysgolion. A allwch ddweud wrthyf beth yn union y maent wedi bod yn ei wneud yn rhagweithiol yn ystod y cyfnod hwn, nid dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig, i gefnogi ysgolion i wneud eu gorau yn ystod anhrefn y cyfnod hwn?
Wel, rwyf newydd roi enghraifft i chi yn ardal GwE, lle maent wedi bod yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein i staff ledled gogledd Cymru fel y gallant ddefnyddio Hwb, ein platfform dysgu digidol, yn y ffordd orau. Yn fy ardal leol i, os trown at rôl awdurdod lleol, cymerodd Cyngor Sir Powys gynllun parhad dysgu Llywodraeth Cymru a’i addasu ar gyfer cyd-destun Powys, ac rydym wedi bod yn cynorthwyo ysgolion i roi’r cynllun hwnnw ar waith. Mae consortia rhanbarthol eraill, unwaith eto, wedi mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi ysgolion, casglu gwybodaeth a darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol. A dylwn ddweud hefyd fy mod yn ymwybodol fod staff y consortia, sydd wedi cael y caniatâd a'r profiad priodol, wedi bod yn gweithio yn ein hybiau gofal plant hefyd. Felly maent wedi bod yn chwarae eu rhan yn cefnogi addysg yn y cyfnod hwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Gweinidog Addysg am fod yn fodlon cyfarfod yn rhithiol bob wythnos yn ystod cyfnod yr argyfwng. Mae wedi bod yn fendithiol iawn, dwi'n credu, ein bod ni wedi gallu cynnal y cyfarfodydd yna a'r drafodaeth yna.
Maddeuwch i fi, ond dwi yn mynd i fynd yn ôl at fater yr ysgolion a mis Medi, oherwydd mae hwn yn dal yn rhywbeth sy'n fyw iawn ym meddwl penaethiaid, rhieni a phlant a phobl ifanc hefyd: beth yn union fydd yn digwydd ym mis Medi. Os bydd hi'n ddiogel, wrth gwrs, dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn cytuno mai'r peth gorau i'n plant a'n pobl ifanc ni ydy bod yr ysgolion yn ailagor yn llawn. Dwi'n meddwl os ydyn ni wedi dysgu rhywbeth yn ystod y cyfnod yma, rydym ni wedi dysgu bod y berthynas rhwng y disgybl a'r athro yn y dosbarth yn rhywbeth mor werthfawr ac nad ydy'r holl ymdrechion i greu addysg ar-lein ddim yn gallu cymryd drosodd y rôl greiddiol yna, er, wrth gwrs, mae ganddo fo le canolog.
Yn y pwyllgor ddoe, fe wnaethoch chi ddweud y bydd yna gyhoeddiad yr wythnos yma ynglŷn â pha drefniadau rydych chi'n disgwyl eu gweld ar waith ym mis Medi, ond mi wnaethoch chi ddweud hefyd eich bod chi wedi dal yn ôl rhag gwneud unrhyw gyhoeddiad oherwydd bod y wyddoniaeth yn esblygu. Ydy, mae o'n esblygu, ond mae o'n esblygu yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ac maen nhw wedi gallu cyhoeddi. Ac yn groes i beth roeddech chi'n ei ddweud mewn ymateb i Suzy Davies, mae'r Alban wedi cyhoeddi canllawiau. Ar 21 Mai, gwnaethon nhw ddweud bod eu hysgolion nhw'n ailagor ar 11 Awst, ac wedyn fe wnaethon nhw gyhoeddi canllawiau ar 28 Mai, ac mi wnaeth Gogledd Iwerddon, ar 18 Mehefin, ddweud bod eu hysgolion nhw'n mynd i ailagor yn raddol o 24 Awst ymlaen, a chafodd canllawiau eu cyhoeddi ar 19 Mehefin. Rŵan, dwi'n derbyn ein bod ni ddim eisiau dilyn gwledydd eraill a'n bod ni'n gallu gwneud ein penderfyniadau ein hunain fan hyn, ond beth sydd yn wahanol o ran y wyddoniaeth yn esblygu yn fan hyn a natur lledaeniad y feirws yn fan hyn o gymharu efo'r gwledydd eraill yma?
Wel, yn gyntaf oll, Siân, a gaf fi ddweud fy mod yn ddiolchgar i chi a Suzy Davies am y cyfle, fel y dywedoch chi, yn wythnosol fel arfer, i allu cadw mewn cysylltiad ac am barhau i fy nwyn i gyfrif?
Nid wyf yn ymwybodol o'r papurau gwyddonol a ystyriwyd gan fy Ngweinidogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu Loegr ac a arweiniodd at y datganiadau hynny ganddynt. Drwy gydol y cyfnod hwn, rydym wedi cael ein llywio gan y wyddoniaeth. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny er mwyn meithrin hyder ymhlith staff a rhieni. Y wyddoniaeth honno sydd wedi ein harwain yng Nghymru i allu gwneud rhywbeth hollol wahanol i'r hyn sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban, gan gydnabod bod dyddiadau eu tymhorau’n wahanol ac felly ei bod wedi bod yn fwy heriol iddynt, ac yn wahanol i'r hyn y maent wedi'i wneud yn Lloegr. Ochr yn ochr â'r wyddoniaeth, rydym hefyd wedi gallu ystyried yr ymarfer dros yr wythnos a hanner erbyn hyn o waith ysgolion i'n helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.
Fel y dywedais, nid wyf yn siŵr beth y mae Gweinidogion unigol eraill wedi'i ddarllen cyn gwneud y cyhoeddiad a wnaethant, ond roeddwn yn hollol benderfynol y byddem yn gwneud penderfyniad ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf ac ar brofiad y cyfnod hwn o addysg lle mae gennym fwy o blant yn ein hysgolion. Yn amlwg, fel y dywedwch, byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Bydd yn rhaid parhau i adolygu'r datganiad hwnnw a bydd yn rhaid inni gael pwyntiau adolygu rheolaidd, oherwydd, fel rydym wedi’i weld yma yng Nghymru, gall y clefyd godi ei ben ac ymyrryd â chynlluniau sydd wedi'u rhoi ar waith a'u paratoi'n ofalus, fel y digwyddodd, er enghraifft, ar Ynys Môn. Ond bydd y datganiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mi fydd penaethiaid yn falch iawn o glywed bod yna wybodaeth yn dod, ond mae hi'n hwyr iawn yn y dydd; dim ond wythnos sydd gan yr ysgolion ar ôl i baratoi. Yn edrych ymlaen i fis Medi, beth fydd eich cynlluniau chi i wneud yn siŵr na fydd y bwlch cyrhaeddiad yn lledaenu yn sgîl yr argyfwng? Fydd yr arian sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei wario ar gynllun lliniaru? Mi wnaeth Plaid Cymru gyhoeddi cynllun rai wythnosau nôl a fyddai'n cynnwys cyflogi mwy o athrawon, cael athrawon sydd newydd ymddeol, efallai eu gwahodd nhw i ddod yn ôl i'r ysgolion. Beth fydd eich nod chi ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ddim wedi cael cefnogaeth yn ystod cyfnod y pandemig yma, sef y rhai o dan yr anfantais fwyaf, sef yr her fwyaf? Beth yn union ydy'ch cynlluniau chi ar gyfer y cohort yna?
Rydych yn iawn i ddweud bod Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi rhaglen dal i fyny gwerth £1 biliwn. Mae angen i mi sicrhau bod yr Aelodau'n ymwybodol nad arian newydd yw’r holl arian hwnnw, a chawsom ein cynghori fel Llywodraeth Cymru y gallem ddisgwyl cyllid canlyniadol o hyd at £30 miliwn ar y gorau, a dim mwy, yn y flwyddyn ariannol hon. Mae gweddill yr arian a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, ac nid yw ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Felly, hoffwn fod yn glir ynghylch y paramedrau rydym yn gweithio o'u mewn.
Fel y dywedais yn gynharach rwy’n credu, rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa—unwaith eto, erbyn diwedd yr wythnos hon—i amlinellu dull unigryw i Gymru o liniaru'r effaith y mae'r afiechyd wedi'i chael ar addysg ein plant. Gwyddom fod y cyfnod hwn o darfu wedi bod yn arbennig o heriol i rannau penodol o'r cohort. Buom yn siarad am blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn gynharach. Yn amlwg, o ran y plant o gefndir economaidd difreintiedig, rydym bob amser yn poeni am y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer y plant penodol hynny. Felly, rydym yn bwriadu sicrhau ei bod yn rhaglen sydd wedi'i lleoli yn yr ysgol, sy'n wahanol iawn i'r dull a ddefnyddir yn Lloegr lle ceir pwyslais ar gyflogi tiwtoriaid preifat. Credaf fod angen i unrhyw raglen benodol i gefnogi dysgu plant fod yn seiliedig ar y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda hwy bob dydd, sy’n eu hadnabod orau ac sy’n gallu ymdrin ag amgylchiadau'r plant hynny.
Yr hyn sy'n hanfodol am yr amser y mae plant yn ei dreulio yn yr ysgol ar hyn o bryd yw bod y gwaith hwnnw eisoes yn dechrau mynd rhagddo i nodi beth fu effaith y cyfnod hwn o darfu ar blant, ac i athrawon ddechrau cynllunio ar gyfer yr hyn y mae angen iddynt ei wneud nesaf i symud plant yn eu blaenau. I rai plant, cynnwys fydd y brif flaenoriaeth; i blant eraill, bydd yn golygu mynd i'r afael â'u hiechyd a'u lles emosiynol. Mae hwn wedi bod yn gyfnod cythryblus iawn i bob un ohonom. Bydd rhai ohonom wedi colli ffrindiau neu berthnasau, ac wedi adnabod pobl sydd wedi bod yn wirioneddol sâl, ac os yw hynny'n wir amdanom ni, yna wrth gwrs, bydd yn wir am ein plant hefyd. Ac mae sicrhau bod ein plant mewn sefyllfa i ddysgu ac i ailymgysylltu â'u haddysg yn wirioneddol bwysig. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod wedi cymryd y cam i roi cyfle i bob plentyn—nid grwpiau blynyddoedd penodol, ond pob plentyn—fynd yn ôl i'r ysgol cyn mis Medi.
Diolch. Tri deg miliwn—dydy hynny ddim yn mynd i fynd yn bell iawn, er gwaethaf rhyw gyhoeddiadau mawr a oedd yn cael eu gwneud gan y Torïaid yn Lloegr yn ddiweddar. Y bwlch digidol: dyma fater arall sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y pandemig—yr anfantais ddigidol y mae rhai myfyrwyr, disgyblion yn dioddef o ran dyfeisiadau a chysylltedd. Mae un arolwg dwi wedi ei weld yn ddiweddar gan Grŵp Llandrillo Menai yn dangos bod 30 y cant o'r myfyrwyr yn teimlo eu bod nhw dan anfantais—hynny yw, eu bod nhw'n methu cael mynediad digonol i ddysgu o bell er mwyn cwblhau eu hastudiaethau nhw, gan nad yw'r cyfarpar neu'r band eang, neu'r ddau, ddim ganddyn nhw. Mae 30 y cant o bobl ifanc yn ffigur mawr, fyddwn i'n tybio, pan fyddwch chi'n meddwl ar draws Cymru. A thybed a fyddai arolwg tebyg ymhlith myfyrwyr addysg uwch yn dangos yr un thema, neu a ydy hyn yn tanlinellu, a dweud y gwir, statws sinderela addysg bellach yng Nghymru? Felly, hoffwn i wybod beth ydy'ch cynlluniau chi i gau'r bwlch digidol yn y sector addysg bellach yn arbennig.
Wel, rydych chi'n iawn—un o'r rhwystrau a fu i ddysgu yn ystod y cyfnod hwn i blant sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yw nad oes ganddynt ddyfais, neu ddyfais addas, neu'n wir, gysylltedd gartref. Dyna pam rydym wedi gwario £3 miliwn ar geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa honno. Rwy'n ddiolchgar iawn i gymheiriaid mewn llywodraeth leol sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â ni i ddarparu dros 10,000 darn o offer, a dros 10,000 o ddyfeisiau MiFi. Unwaith eto, mae hyn yn gyflawniad y credaf y gallwn fod yn falch ohono yng Nghymru, o gymharu â'r gallu i ddarparu offer mewn gwledydd eraill, lle maent wedi’i chael hi’n anodd gwneud hynny. Rydym wedi benthyca offer sydd eisoes mewn ysgolion yn hytrach na mynd i'r farchnad i’w brynu’n newydd, gan ein bod yn gwybod bod pawb arall yn mynd i'r farchnad i brynu’n newydd, ac y byddai hynny'n arwain at oedi sylweddol cyn rhoi’r hyn roedd arnynt ei angen i’r plant. Byddwn yn rhoi offer newydd i ysgolion yn lle’r offer a fenthycwyd i’r plant—a gafodd ei roi i’r plant.
Rydym wrthi’n trafod cynlluniau gyda'r sector addysg bellach i weld a ellir rhoi sefyllfa debyg a lefel debyg o gefnogaeth ar waith ar gyfer addysg bellach. Ond unwaith eto, byddwn yn cymeradwyo gwaith aelodau ColegauCymru, sydd wedi gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod myfyrwyr addysg bellach sydd mewn perygl o gael eu hallgáu'n ddigidol wedi gallu cael cymorth. Ac er ein bod yn siarad, yn hollol ddealladwy, am ysgolion yn dychwelyd, mae colegau addysg bellach hefyd yn ôl yn gweithio, ac mae ganddynt bwyslais arbennig ar gysylltu â'n myfyrwyr mwyaf bregus—yr union fyfyrwyr y sonioch chi amdanynt, Siân, myfyrwyr y mae dysgu o bell wedi bod yn her arbennig iddynt o bosibl—ac mae hynny'n mynd yn dda iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf.