Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 12:23 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Rwy'n falch iawn fy mod yn gallu sefyll yma heddiw a dweud bod plant yng Nghymru wedi cael cyfle i fynd i'r ysgol cyn i bobl gael yr un cyfle i fynd i dafarn. Rwy'n credu ei fod yn dweud rhywbeth am y blaenoriaethau yma yng Nghymru. Rwy'n rhannu eich gwerthfawrogiad o'r holl bobl sydd wedi dod at ei gilydd mewn ymdrechion ar y cyd i sicrhau bod hynny'n digwydd, a hoffwn ddiolch i bawb ohonynt yma heddiw ar ran yr holl rieni hynny.
Fel y dywedwch, mae hwn yn gyfle i ailgydio a dal i fyny, ac mae'r ychydig wythnosau hyn cyn toriad yr haf yn bwysig ar gyfer nodi heriau logistaidd. Un o'r heriau logistaidd hynny yn fy rhanbarth i fydd cludiant i'r ysgol. Felly, a gawn ni edrych ymlaen at ddatganiad yn y dyfodol agos ar yr hyn a ddysgwyd, beth sydd wedi gweithio'n dda a ble mae angen inni fod nesaf efallai?