Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 12:41 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Gweinidog Addysg am fod yn fodlon cyfarfod yn rhithiol bob wythnos yn ystod cyfnod yr argyfwng. Mae wedi bod yn fendithiol iawn, dwi'n credu, ein bod ni wedi gallu cynnal y cyfarfodydd yna a'r drafodaeth yna.
Maddeuwch i fi, ond dwi yn mynd i fynd yn ôl at fater yr ysgolion a mis Medi, oherwydd mae hwn yn dal yn rhywbeth sy'n fyw iawn ym meddwl penaethiaid, rhieni a phlant a phobl ifanc hefyd: beth yn union fydd yn digwydd ym mis Medi. Os bydd hi'n ddiogel, wrth gwrs, dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn cytuno mai'r peth gorau i'n plant a'n pobl ifanc ni ydy bod yr ysgolion yn ailagor yn llawn. Dwi'n meddwl os ydyn ni wedi dysgu rhywbeth yn ystod y cyfnod yma, rydym ni wedi dysgu bod y berthynas rhwng y disgybl a'r athro yn y dosbarth yn rhywbeth mor werthfawr ac nad ydy'r holl ymdrechion i greu addysg ar-lein ddim yn gallu cymryd drosodd y rôl greiddiol yna, er, wrth gwrs, mae ganddo fo le canolog.
Yn y pwyllgor ddoe, fe wnaethoch chi ddweud y bydd yna gyhoeddiad yr wythnos yma ynglŷn â pha drefniadau rydych chi'n disgwyl eu gweld ar waith ym mis Medi, ond mi wnaethoch chi ddweud hefyd eich bod chi wedi dal yn ôl rhag gwneud unrhyw gyhoeddiad oherwydd bod y wyddoniaeth yn esblygu. Ydy, mae o'n esblygu, ond mae o'n esblygu yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ac maen nhw wedi gallu cyhoeddi. Ac yn groes i beth roeddech chi'n ei ddweud mewn ymateb i Suzy Davies, mae'r Alban wedi cyhoeddi canllawiau. Ar 21 Mai, gwnaethon nhw ddweud bod eu hysgolion nhw'n ailagor ar 11 Awst, ac wedyn fe wnaethon nhw gyhoeddi canllawiau ar 28 Mai, ac mi wnaeth Gogledd Iwerddon, ar 18 Mehefin, ddweud bod eu hysgolion nhw'n mynd i ailagor yn raddol o 24 Awst ymlaen, a chafodd canllawiau eu cyhoeddi ar 19 Mehefin. Rŵan, dwi'n derbyn ein bod ni ddim eisiau dilyn gwledydd eraill a'n bod ni'n gallu gwneud ein penderfyniadau ein hunain fan hyn, ond beth sydd yn wahanol o ran y wyddoniaeth yn esblygu yn fan hyn a natur lledaeniad y feirws yn fan hyn o gymharu efo'r gwledydd eraill yma?