Y Gwasanaeth Iechyd

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:05, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Clywais eich ymateb i’r cwestiwn cynharach, Weinidog, a chlywais hefyd eich ymateb i'r Prif Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, cwestiwn Paul Davies i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw ar y pwnc hwn. A gaf fi ofyn pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd trigolion Cymru yn cael eu trin yn gyfartal gan ysbytai Lloegr wrth ailddechrau gwasanaethau'r GIG, ac yn enwedig wrth ailddechrau gwasanaethau allgymorth gan feddygon ymgynghorol ysbytai yn Lloegr i ysbytai Cymru i ddarparu apwyntiadau a thriniaethau yn nes at adref i gleifion Powys?