Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rhyddhawyd 1,097 o gleifion neu unigolion i gartrefi gofal heb brawf COVID-19 ym mis Mawrth a mis Ebrill. Ddydd Sul, fe sonioch chi nad oes tystiolaeth i awgrymu bod hyn wedi achosi unrhyw gynnydd yn nifer yr achosion neu farwolaethau o COVID. Mewn perthynas â chyfraddau marwolaeth ac achosion, roedd addewid i gyhoeddi adroddiad interim cyn y toriad. A fydd hwn yn edrych yn agos iawn ar effaith rhyddhau cleifion ar gartrefi gofal? Beth a ddywedwch wrth berchnogion cartrefi gofal sydd wedi darparu tystiolaeth lafar yn dweud er enghraifft, 'Ni chynhaliwyd profion ar y bobl a ryddhawyd o'r ysbyty am mai ar ôl iddynt ein cyrraedd y gwelwyd bod ganddynt symptomau?' Rwyf wedi sefydlu bod 188 o gartrefi yng ngogledd Cymru wedi derbyn cleifion o’r ysbyty yn ystod y naw wythnos ar ôl 16 Mawrth. A fydd eich adroddiad interim yn trawsgyfeirio data rhyddhau cleifion â data cartrefi gofal sydd wedi cofnodi achosion o COVID-19?