4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y grŵp Ceidwadol—Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rhyddhawyd 1,097 o gleifion neu unigolion i gartrefi gofal heb brawf COVID-19 ym mis Mawrth a mis Ebrill. Ddydd Sul, fe sonioch chi nad oes tystiolaeth i awgrymu bod hyn wedi achosi unrhyw gynnydd yn nifer yr achosion neu farwolaethau o COVID. Mewn perthynas â chyfraddau marwolaeth ac achosion, roedd addewid i gyhoeddi adroddiad interim cyn y toriad. A fydd hwn yn edrych yn agos iawn ar effaith rhyddhau cleifion ar gartrefi gofal? Beth a ddywedwch wrth berchnogion cartrefi gofal sydd wedi darparu tystiolaeth lafar yn dweud er enghraifft, 'Ni chynhaliwyd profion ar y bobl a ryddhawyd o'r ysbyty am mai ar ôl iddynt ein cyrraedd y gwelwyd bod ganddynt symptomau?' Rwyf wedi sefydlu bod 188 o gartrefi yng ngogledd Cymru wedi derbyn cleifion o’r ysbyty yn ystod y naw wythnos ar ôl 16 Mawrth. A fydd eich adroddiad interim yn trawsgyfeirio data rhyddhau cleifion â data cartrefi gofal sydd wedi cofnodi achosion o COVID-19?
Fel rheol, Lywydd, cwestiynau ar gyfer y dirprwy yw cwestiynau gan Janet Finch-Saunders, ond rwy'n credu ei bod hi'n amlwg heddiw mai ar fy nghyfer i y mae hwn. O ran yr adroddiad interim rwy’n dal i fod am ei weld yn cael ei gyhoeddi cyn inni ddechrau ar y toriad, yn amlwg ni fydd yn manylu ar y lefel unigol y mae'r Aelod yn holi yn ei chylch.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud, serch hynny, yw ceisio deall beth sydd wedi digwydd, o ran y dewisiadau a wnaethom ar yr adeg pan oedd y GIG mewn perygl gwirioneddol o gael ei lethu pe na baem yn paratoi—. Dyna pam y gwneuthum y penderfyniad ganol mis Mawrth i ohirio ystod o weithgaredd ac i ysbytai greu lle ac amser i staff ailhyfforddi er mwyn achub bywydau. Dyna pam hefyd ein bod wedi gweithredu ystod o fesurau trwy gydol y pandemig i gefnogi nid yn unig y sector gofal preswyl ond yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol ehangach hefyd. Rwy'n credu y bydd gan yr adroddiad interim amryw o wersi i'r Llywodraeth ac yn fwy eang. Fel y dywedaf, mae mwy o wersi i'w dysgu ohono.
O ran rhyddhau cleifion heb gynnal profion coronafeirws arnynt, fel y dywedais ar sawl achlysur, roedd hynny oherwydd mai dyna oedd y cyngor ar y pryd. Y penderfyniad a gymerais, yn seiliedig ar y cyngor hwnnw, oedd na ddylid profi pobl heb symptomau ar yr adeg honno. Fodd bynnag, mae'n werth i bob un ohonom gofio bod amryw o'r bobl a ryddhawyd yn cael eu rhyddhau i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gynorthwyo pobl i ddychwelyd a chael gofal yn eu cartref eu hunain wrth inni geisio cefnogi'r sector cartrefi gofal ehangach. Dyna'r dull y byddwn yn parhau i'w weithredu—dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd a chymhwyso hynny ar gyfer y dyfodol.
Diolch, Weinidog. Nawr, nid fi’n unig sy'n pryderu am gartrefi gofal. Mae adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, 'Lleisiau Cartrefi Gofal', wedi gofyn am gyfleusterau cam-i-lawr i sicrhau y caiff cleifion eu rhyddhau’n ddiogel o'r ysbyty, a chanfu fod argaeledd cyfyngedig profion yn achos pryder sylweddol. O 15 Mehefin, roedd holl staff cartrefi gofal i gael cynnig prawf wythnosol am gyfnod o bedair wythnos. A wnewch chi ymestyn hyn? Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, cafodd 49.6 y cant o ganlyniadau profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru eu dychwelyd o fewn diwrnod, a 74.1 y cant o fewn dau ddiwrnod. Pam y mae'r canrannau'n gostwng, a pha fesurau penodol y byddwch chi'n eu rhoi ar waith i wyrdroi'r duedd?
Fe wnaf ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf. O ran gwella amser dychwelyd canlyniadau profion, mae'n bryder gwirioneddol i mi a'r Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd. Mae gennym raglen wella ar waith sy'n nodi meysydd ar gyfer gwneud gwahaniaeth ymarferol i'r ddarpariaeth weithredol er mwyn cyflymu amseroedd dychwelyd canlyniadau. Mae gwaith eisoes ar y gweill mewn perthynas â gwasanaethau cludo a mwy o weithredu’n digwydd, gyda chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, i wella effeithlonrwydd yn ein labordai.
O ran y dull ehangach o weithredu, byddwn yn cyhoeddi strategaeth brofi ddiwygiedig. Rwy'n disgwyl cyngor i mi ei ystyried a gwneud penderfyniad yn ei gylch, ac rwy'n disgwyl i'r strategaeth brofi honno gael ei chyhoeddi cyn diwedd yr wythnos nesaf. Felly, byddwn yn parhau i ddysgu o dystiolaeth ac o brofiad wrth inni geisio adolygu ein dull o weithredu ar gyfer y dyfodol, gyda'r unig ffocws ar achub bywydau a helpu Cymru i lacio’r cyfyngiadau symud yn ddiogel.
Diolch i chi unwaith eto. Nawr, mae llawer o bobl y siaradais â hwy yn y sector gofal cymdeithasol a staff cartrefi gofal yn teimlo eu bod wedi cael cam gan y Prif Weinidog. A ydych yn cytuno â mi y dylai ymddiheuro am fethu gwneud y cyhoeddiad ynghylch y taliad o £500 heb gysylltu â Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu egluro a fyddai'r bonws yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau cyn gwneud y cyhoeddiad, neu ai chi sy’n gyfrifol am hyn? A ddylai ddarparu dyddiad ar frys ar gyfer talu’r bonws, rhoi’r gorau i din-droi, a defnyddio pwerau a chyllid Llywodraeth Cymru i grosio’r taliad i fyny er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn elwa o’r £500 hwn fan lleiaf? Hoffwn ei weld yn sicrhau hefyd fod staff hosbisau cymunedol yn gymwys i gael y bonws. A ydych chi'n cytuno â'r pethau hyn, Weinidog iechyd?
Wel, fel y cofiwch o wrando ar y Prif Weinidog yn gynharach, rydym yn parhau i siarad gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael y £500 llawn. Ni chredaf y byddai'n ddiwrnod da i CThEM pe baent yn mynd ag arian o bocedi gweithwyr sy'n cael cyflog gwael yn y sector gofal cymdeithasol, a byddwn yn ceisio dihysbyddu pob llwybr trafod cyn gwneud unrhyw ddewis pellach, ond mae'n fater sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. Ni ddylai'r taliad hwn fod yn ffynhonnell o arian annisgwyl i Drysorlys y DU.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf, gaf i groesawu datganiad y Gweinidog ei fod o'n ystyried canllawiau cryfach ar ddefnydd gorchuddion wyneb? Dwi'n galw eto yr wythnos yma am wneud gorchuddion yn orfodol mewn rhai llefydd dan do. Mae'r dystiolaeth, dwi'n meddwl, o les hynny yn cryfhau, felly, hefyd y dystiolaeth ar y tebygrwydd y bydd y feirws yn lledaenu drwy'r awyr. Felly, dwi'n edrych ymlaen at ddatganiad cadarn a buan ar hynny.
Ond am droi at adroddiad pwyllgor iechyd a gofal y Senedd ydw i, a'r pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad heddiw sydd yn codi llawer o gwestiynau sylfaenol am ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Un o'r rheini ydy'r arafwch o ran camau gweithredu i warchod y sector gofal. Rŵan, dwi wedi gweld ffigurau sydd yn dangos faint o brofion antibody sydd wedi cael eu gwneud mewn gwahanol sectorau: 13,000 o weithwyr iechyd wedi'u profi; 9,000 o weithwyr mewn hubs addysg wedi cael eu profi; a dim ond 75 o bobl sydd yn gweithio yn y sector gofal. Ydy'r Gweinidog yn gallu gweld bod hynny'n atgyfnerthu'r teimlad bod y sector yma wedi methu â chael ei blaenoriaethu'n gynnar yn y pandemig yma a'i bod hi'n dal i fethu â chael ei blaenoriaethu rŵan?
Nid wyf yn credu ei fod yn gasgliad sy'n ffeithiol gywir i'w gyrraedd nad oedd y Llywodraeth a'n partneriaid yn rhoi blaenoriaeth i'r sector gofal cymdeithasol o ran faint o gymorth a ddarparwyd gennym, ar ffurf cymorth ariannol ychwanegol ar sail argyfwng, a'r cymorth ychwanegol rydym yn gobeithio dod o hyd iddo ar adeg anodd iawn hefyd. Rydym hefyd wedi darparu llawer iawn o gyfarpar diogelu personol am ddim i'r sector gofal cymdeithasol ar adeg pan oedd eu llinellau cyflenwi arferol wedi chwalu. Felly, mae cryn dipyn o gymorth wedi bod, gan gynnwys staffio yn ogystal.
O ran y profion gwrthgyrff, nid wyf yn credu bod y ffigurau'n gywir. Byddaf yn falch o edrych ar y ffigurau eto a dod yn ôl, nid yn unig at yr Aelod, ond yn fwy cyffredinol, oherwydd mae gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr iechyd a gweithwyr addysg yn dri o'r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer y prawf gwrthgyrff. A phwrpas y prawf gwrthgyrff mewn gwirionedd yw ein helpu i ddeall lefel y coronafeirws o gwmpas y wlad ar yr adeg hon. Nid yw'r dystiolaeth yn gir o ran pa mor hirdymor yw ymateb gwrthgyrff, neu'n wir, pa mor ddefnyddiol yw'r prawf o ran trosglwyddiad pobl i bobl eraill, neu'n wir i helpu pobl i wella neu fod ag imiwnedd rhag cael eu heintio eto gan y coronafeirws, ond mae'n sicr yn ein helpu i ddeall pa mor bell y mae coronafeirws wedi lledaenu. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r profion sydd ar gael inni i wneud hynny, a gallwch ddisgwyl gweld mwy o hynny yn y strategaeth brofi y cyfeiriais ati eisoes.
Dwi am droi at ddata rŵan, os caf i. Roeddem ni i gyd yn croesawu'r ffigurau yn gynharach yr wythnos yma o ddiwrnod arall lle na chofnodwyd yr un farwolaeth COVID-19 yng Nghymru; rydym ni eisiau mwy o ddyddiau felly. Y ffigurau hefyd yn dangos mai dim ond saith achos newydd o COVID-19 a gafodd eu cofnodi ar dashboard Iechyd Cyhoeddus Cymru—eto, newyddion da. Ond mae eisiau bod yn ofalus efo'r ffigurau yma, dwi'n meddwl, achos mi allai'r ffigurau bod allan ohoni dipyn, oherwydd dwi'n deall y gallai cymaint â 35 i 40 y cant o achosion newydd positif sydd ddim yn cael eu cyhoeddi yn y ffordd yma os ydyn nhw'n cael eu profi mewn labordai sydd ddim yn rhan o'r NHS.
A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd popeth yn cael ei wneud i sicrhau bod pob canlyniad positif yn cael eu dangos ar dashboard data cyfredol a hefyd ein bod ni'n gallu gweld ym mha ardaloedd mae'r achosion positif hynny? Hefyd, plîs allwn ni sicrhau bod meddygon teulu yn cael gwybod pan fo'u cleifion nhw'n profi'n bositif, achos, o siarad efo meddygon teulu yn Ynys Môn, dydyn nhw ddim yn cael dim gwybodaeth o gwbl?
Rwy'n credu bod tri phwynt yr hoffwn eu gwneud mewn ymateb i'r rheini. Mae'r un olaf yn ymwneud â'r pwynt am roi gwybod i feddygon teulu. Dylai fod ar gael fel rhan o gofnod y claf; dylai fod ar gael i ymarfer cyffredinol. Ac os oes gan yr Aelod achosion unigol y mae'n ymwybodol ohonynt yn ei etholaeth, byddwn yn falch iawn o weld y rheini er mwyn sicrhau bod y system yn gweithio fel y dylai.
Bydd yr Aelod yn cofio mai dyna ran o'r rheswm nad oeddem yn gallu—. Wel, dewisais beidio â chymryd rhan yn rhaglen brofi'r DU, oherwydd, ar gam cynnar, nid oeddem yn gallu cael canlyniadau'r profion hynny wedi'u bwydo'n ôl yn ddibynadwy ac yn rheolaidd o fewn ein system. Bydd yr Aelod yn cofio bod problemau'n parhau yng Nghaerlŷr o ran pa mor rheolaidd y darperir y wybodaeth honno o fewn y system yn Lloegr.
Mae hynny'n fy arwain at fy ail bwynt, sef ein bod eisoes yn darparu gwybodaeth am faint o'n hachosion positif sy'n dod o raglen brofi'r DU, rhaglen rydym wedi optio i mewn iddi, yn enwedig mewn canolfannau profi drwy ffenest y car, yn ogystal â'r hyn y mae labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ddarparu. Felly, ddoe, cafwyd tri chanlyniad positif o raglen y DU, ac yn ogystal â'r saith o labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hynny'n gwneud 10 o achosion positif i gyd ledled Cymru.
Ac mae hynny'n cysylltu â fy nhrydydd pwynt, sef ein bod yn gweld tuedd gadarnhaol ar i lawr yn yr holl ddata a welwn ar hyn o bryd, o ran yr achosion o goronafeirws er gwaethaf y ffaith bod dau glwstwr yng ngogledd Cymru a'r digwyddiad o amgylch Merthyr Tudful. Felly, mae hynny ar bethau fel derbyniadau i ysbytai, achosion positif, ac yn wir, y defnydd o ofal critigol. Rydym i gyd yn gweld pethau'n symud i'r cyfeiriad iawn, a dyna pam ein bod yn gallu gwneud camau gofalus ond cynyddol tuag at lacio cyfyngiadau symud yng Nghymru. Ond mae'r achosion yn ein hatgoffa na ddylai'r un ohonom laesu dwylo, oherwydd, yn anffodus, nid yw coronafeirws wedi diflannu.
Yn hollol. Rwy'n credu eich bod wedi cadarnhau'r hyn roeddwn yn ei ddweud yn eich ymateb yno ar ddata'r dangosfwrdd. Dywedwch fod saith prawf positif yng Nghymru, tri mewn labordai nad ydynt yn rhai'r GIG; dim ond y saith a ddangosai'r dangosfwrdd a welais i. Felly, mae hynny'n dangos bod yn rhaid i'r holl ddata gael ei gyflwyno mewn ffordd gyfredol, lle bynnag y caiff y profion eu prosesu.
Rwy'n mynd i droi, yn olaf, at faes arall lle mae angen canlyniadau profion cyflymach, sef diagnosis canser. Mae argyfwng COVID wedi arwain at nifer o ragfynegiadau pryderus iawn am y marwolaethau ychwanegol o ganser sy'n debygol o ddigwydd eleni o ganlyniad i ganslo rhaglenni sgrinio, pobl yn rhy ofnus i ymweld â'r GIG, ac wrth gwrs, gohirio triniaethau. Felly, mae'n fwy hanfodol nag erioed ein bod yn cael canlyniadau prawf cyflym mewn achosion lle ceir amheuaeth o ganser. Felly, a wnewch chi fabwysiadu cynllun achub canser sydd â thargedau mwy uchelgeisiol ar gyfer profi a rhoi triniaeth nag a fu yn y gorffennol, oherwydd y tebygolrwydd y bydd y GIG yn canfod canserau'n hwyrach?
[Anghlywadwy.]—gwybodaeth am ganser, a gallaf sicrhau'r Aelod mai'r penderfyniad a wneuthum i gyflwyno a threialu'r llwybr canser sengl fydd y ffordd ymlaen pan fyddwn yn ailgychwyn mesurau perfformiad newydd yn y dyfodol, wrth inni fynd ati'n gynyddol i ailgychwyn rhagor o fathau o weithgarwch y GIG. Rwyf eisoes wedi penderfynu na fyddwn yn adrodd ar yr hen fesurau. Nid wyf yn credu y byddai'n fuddiol nac yn eglur i adrodd ar yr hen fesurau o dan y llwybr brys a'r llwybr nad yw'n llwybr brys, a dim ond ar y llwybr canser sengl y byddwn yn adrodd, llwybr sydd, fel y gŵyr yr Aelod, wedi cael ei gefnogi gan glinigwyr ac elusennau canser y trydydd sector. A bydd hynny, rwy'n meddwl, yn rhoi arwydd llawer cywirach inni o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd o ran trin canser ac amseroedd aros. Felly, rwy'n disgwyl i hwnnw ddarparu'r lefel o eglurder a thryloywder o ran pa mor gyflym y down drwy'r nifer sy'n cael eu hatgyfeirio at ein gwasanaethau canser, wrth inni ymateb i'r angen i ailgychwyn gwasanaethau. Oherwydd, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ataliwyd gwasanaethau endosgopi yn ystod y pandemig; maent yn ailgychwyn yn awr. Ond mae hynny'n rhoi heriau sylweddol i ni mewn sawl agwedd ar ein gwaith, nid yn unig canser, ond byddwn yn parhau i fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud a beth y mae hynny'n ei olygu i bobl yma yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Brexit, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch i waith caled ac ymroddiad ein staff iechyd a gofal, yn ogystal â'r aberth enfawr gan y cyhoedd yng Nghymru, rydym dros y gwaethaf o'r argyfwng coronafeirws yn awr. Fel y mae'r prif swyddog meddygol yn dweud, a hynny'n gywir, gallem wynebu bygythiad o'r newydd gan COVID-19 erbyn yr hydref. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i sicrhau y gall y GIG yng Nghymru ddarparu gwasanaethau rheolaidd ar yr un pryd ag ymdrin â COVID-19? Neu a yw eich cynlluniau'n rhagweld y bydd gwasanaethau o ddydd i ddydd y GIG yn cael eu hatal ymhellach? Diolch.
Mae dau bwynt i'w gwneud yno: y cyntaf yw ein bod yn edrych ar wyliadwriaeth ryngwladol, yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill wrth iddynt gyrraedd eu gaeaf. Mae'n rhan o'r heriau o gwmpas Melbourne, ond mae hefyd yn rhan, er enghraifft, o bryder sydd gennym am Dde America wrth iddynt nesáu at eu gaeaf ac yn arbennig, heriau tai gorlawn a phobl sydd eisoes yn agored i niwed. Mae hynny'n destun pryder gwirioneddol i ni, ac mae hynny'n goleuo ein cynlluniau yma ynghylch ailddechrau'r GIG, fel y dywedais o'r blaen, y cynlluniau sydd gennym yn barod—yr angen am lwybrau COVID-positif neu rai lle ceir amheuaeth o COVID a llwybrau i rai nad ydynt wedi'u heintio â COVID, y dynodiad gwyrdd a choch, y bydd gofyn gwneud gwaith ychwanegol arnynt dros yr haf, yn ffisegol yn yr amgylchedd mewn amrywiaeth o'n cyfleusterau triniaeth yn y GIG—ac yna bydd angen inni feddwl nid yn unig am ailgychwyn y gweithgaredd hwnnw, ond faint o waith a pha mor bell y gallwn ei gynnal drwy'r gaeaf, a ninnau'n gwybod y bydd pwysau normal, rheolaidd ar y gwasanaeth iechyd. Ond os bydd cynnydd sydyn pellach yn lefelau coronafeirws drwy'r hydref neu'r gaeaf, mae'n bosibl wrth gwrs y bydd angen i mi wneud penderfyniad arall i atal rhannau o'n gwasanaeth iechyd, oherwydd niwed llawer mwy a allai gael ei achosi drwy gynnydd sydyn yn y nifer o achosion o'r coronafeirws a pheidio â newid y ffordd y mae ein gwasanaeth iechyd yn darparu ei wasanaeth.
Felly, mae'r pethau hynny i gyd yn bosibl, ond fy nghynllun yw cael cymaint â phosibl o driniaethau arferol i ailddechrau yn y gwasanaeth iechyd gwladol drwy'r haf a gwneud popeth sydd ei angen i helpu pobl i barhau i gymryd camau i leihau'r perygl o gynnydd pellach mewn achosion o goronafeirws yma yng Nghymru.
Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, daw'r bygythiad mwyaf y gaeaf hwn o ymdrin â thymor annwyd a ffliw gwael ochr yn ochr â COVID. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ehangu argaeledd y brechlyn ffliw a sicrhau ei fod ar gael yn gynharach? Bydd cyfyngiadau’r pandemig yn ei gwneud yn llawer anoddach i ddosbarthu'r brechlyn ffliw nag mewn blynyddoedd blaenorol, felly mae angen inni ddechrau paratoi i'w ddarparu yn awr. Weinidog, y llynedd, ni dderbyniodd llawer o bobl eu brechlyn tan fis Rhagfyr, a gwelwyd prinder sylweddol. A allwch warantu na fydd y prinder hwn yn digwydd eleni? Diolch.
Wel, gallaf ddweud ein bod eisoes yn edrych ar raglen ffliw eleni, ac yn benodol, ar gaffael stociau ychwanegol o'r brechlyn ffliw. Mae gwaith yn mynd rhagddo ledled Cymru ar ehangu cymhwysedd ar gyfer rhaglen ffliw'r GIG. Rwyf am weld niferoedd uwch o lawer o staff sy'n gweithio gyda phobl agored i niwed yn ogystal â'r bobl sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw'r GIG yn manteisio ar yr hawl honno.
Roedd problemau penodol gyda ffurf y cyflenwad o'r brechlyn y llynedd. Rydym yn cael trafodaethau cynnar. Mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo nid yn unig yng Nghymru, ond mae'n sgwrs rwyf wedi'i chael hefyd gyda Gweinidogion iechyd y pedwar Cabinet ledled y DU, gan ein bod yn rhannu adnoddau o ran y ffordd rydym yn caffael y brechlyn ffliw. Felly, rydym yn ystyried caffael yn gynharach ac ar raddfa fwy i sicrhau ein bod yn gallu helpu pobl i ddiogelu eu hunain a'u teuluoedd, wrth gwrs.
Gwyddom y bydd y perygl o gael ffliw yn broblem bosibl os gwelwn gynnydd pellach yn y coronafeirws ei hun. Nid wyf yn poeni gymaint y gallai’r tymor ffliw fod yn anodd, ond gallai tymor ffliw cyffredin gyda chynnydd pellach yng nghyfraddau coronafeirws arwain at ganlyniadau difrifol iawn a niwed gwirioneddol ledled Cymru, felly mae'n un o fy mhryderon mwy arwyddocaol yn awr wrth gynllunio ar gyfer yr hydref a'r gaeaf.