Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch, Weinidog. Nawr, nid fi’n unig sy'n pryderu am gartrefi gofal. Mae adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, 'Lleisiau Cartrefi Gofal', wedi gofyn am gyfleusterau cam-i-lawr i sicrhau y caiff cleifion eu rhyddhau’n ddiogel o'r ysbyty, a chanfu fod argaeledd cyfyngedig profion yn achos pryder sylweddol. O 15 Mehefin, roedd holl staff cartrefi gofal i gael cynnig prawf wythnosol am gyfnod o bedair wythnos. A wnewch chi ymestyn hyn? Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, cafodd 49.6 y cant o ganlyniadau profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru eu dychwelyd o fewn diwrnod, a 74.1 y cant o fewn dau ddiwrnod. Pam y mae'r canrannau'n gostwng, a pha fesurau penodol y byddwch chi'n eu rhoi ar waith i wyrdroi'r duedd?