Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, daw'r bygythiad mwyaf y gaeaf hwn o ymdrin â thymor annwyd a ffliw gwael ochr yn ochr â COVID. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ehangu argaeledd y brechlyn ffliw a sicrhau ei fod ar gael yn gynharach? Bydd cyfyngiadau’r pandemig yn ei gwneud yn llawer anoddach i ddosbarthu'r brechlyn ffliw nag mewn blynyddoedd blaenorol, felly mae angen inni ddechrau paratoi i'w ddarparu yn awr. Weinidog, y llynedd, ni dderbyniodd llawer o bobl eu brechlyn tan fis Rhagfyr, a gwelwyd prinder sylweddol. A allwch warantu na fydd y prinder hwn yn digwydd eleni? Diolch.