Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:19, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi unwaith eto. Nawr, mae llawer o bobl y siaradais â hwy yn y sector gofal cymdeithasol a staff cartrefi gofal yn teimlo eu bod wedi cael cam gan y Prif Weinidog. A ydych yn cytuno â mi y dylai ymddiheuro am fethu gwneud y cyhoeddiad ynghylch y taliad o £500 heb gysylltu â Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu egluro a fyddai'r bonws yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau cyn gwneud y cyhoeddiad, neu ai chi sy’n gyfrifol am hyn? A ddylai ddarparu dyddiad ar frys ar gyfer talu’r bonws, rhoi’r gorau i din-droi, a defnyddio pwerau a chyllid Llywodraeth Cymru i grosio’r taliad i fyny er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn elwa o’r £500 hwn fan lleiaf? Hoffwn ei weld yn sicrhau hefyd fod staff hosbisau cymunedol yn gymwys i gael y bonws. A ydych chi'n cytuno â'r pethau hyn, Weinidog iechyd?