Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch i Hefin David am ei gwestiwn. Cafodd y gyllideb ar gyfer y cynnig ei haddasu o fis Ebrill i ariannu gofal plant ar gyfer plant cyn oed ysgol sy’n blant i weithwyr hanfodol a phlant agored i niwed o dan gynllun cymorth gofal plant y coronafeirws. Felly, yn anffodus, roedd hyn yn golygu bod yn rhaid inni gau'r cynnig dros dro i ymgeiswyr newydd. Rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol yn awr, yn enwedig yr awdurdodau lleol, sy'n gweinyddu cynllun cymorth gofal plant y coronafeirws a'r cynnig yn eu hardaloedd lleol i weld pryd y gallwn ailagor y cynnig i rieni newydd. Gobeithiwn yn fawr y gallwn ailgychwyn y ddarpariaeth gofal plant ac addysg o dan y cynnig yn nhymor yr hydref. Mae hyn yn amlwg yn ddibynnol ar y data ar y feirws dros yr haf, ond rydym yn ymwybodol o ba mor bwysig yw'r cymorth hwn i deuluoedd ac i ddarparwyr gofal plant. Felly, rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiad cyn gynted â phosibl.