Gofal Plant am Ddim

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:44, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Gyda hynny mewn golwg, mae preswylydd wedi cysylltu â mi gyda chwestiynau am y 30 o oriau am ddim—mae hi eisoes yn gymwys fel un o'r bobl sydd eisoes yn gymwys—drwy gydol gwyliau'r ysgol, y mae ganddynt hawl iddynt. A allwch gadarnhau a chofnodi y bydd hynny'n parhau i fod ar gael i'r bobl hynny sydd eisoes yn gymwys? Ac o ran mis Medi, mae'n gweithio gartref ac mae ei phartner yn gweithio gartref hefyd. Pryd y cawn eglurder ynglŷn ag argaeledd ym mis Medi fel y gall rhieni ystyried eu hopsiynau cyn yr adeg honno?