Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Weinidog, diolch am eich ateb, ac rydych yn llygad eich lle—penderfyniad i'r bwrdd ydyw. Ond rwyf am ofyn i chi a fyddech yn croesawu'r pwyslais newydd y mae'r bwrdd iechyd wedi'i roi, yn anad dim yng ngoleuni penderfyniad Ysbyty Brenhinol Morgannwg, penderfyniad sydd i’w groesawu’n fawr, ar fuddsoddi’n helaeth hefyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol er mwyn diogelu ein gwasanaethau brys a sicrhau bod pobl yn mynd i’r lle iawn i gael y driniaeth iawn. Ac yn wir, maent bellach yn canolbwyntio’n fanwl ar ddatblygu gofal cymunedol yn ysbyty Maesteg. A fyddai ganddo ddiddordeb yn hyn? A fyddai’n siarad â’r bwrdd am eu gwaith gydag Ysbyty Cymunedol Maesteg, a hefyd eu bwriad i ddatblygu gofal cymunedol a sylfaenol yn ardal Llanharan hefyd? Mae'n wych gweld y ffocws newydd hwn.