Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Yn sicr, byddwn yn hapus i gymryd diddordeb ac i sicrhau bod y bwrdd iechyd, wrth ddatblygu'r gwasanaethau hyn yn etholaeth yr Aelod, yn ymgysylltu'n weithredol ag ef fel un o'r rhanddeiliaid cymunedol pwysicaf, gan y deallaf fod bwrdd y prosiect i fod i ailddechrau ar rywfaint o'u gwaith, sydd wedi'i ohirio yn ystod y pandemig coronafeirws hyd yma, i barhau i edrych ar y dyfodol. Rwy’n fwy na pharod i sicrhau bod yr Aelod yn cael ei hysbysu'n llawn ac yn briodol, a'i fod yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd iechyd ar y mater hwn ar gyfer y dyfodol.