Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:20, 8 Gorffennaf 2020

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf, gaf i groesawu datganiad y Gweinidog ei fod o'n ystyried canllawiau cryfach ar ddefnydd gorchuddion wyneb? Dwi'n galw eto yr wythnos yma am wneud gorchuddion yn orfodol mewn rhai llefydd dan do. Mae'r dystiolaeth, dwi'n meddwl, o les hynny yn cryfhau, felly, hefyd y dystiolaeth ar y tebygrwydd y bydd y feirws yn lledaenu drwy'r awyr. Felly, dwi'n edrych ymlaen at ddatganiad cadarn a buan ar hynny.

Ond am droi at adroddiad pwyllgor iechyd a gofal y Senedd ydw i, a'r pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad heddiw sydd yn codi llawer o gwestiynau sylfaenol am ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Un o'r rheini ydy'r arafwch o ran camau gweithredu i warchod y sector gofal. Rŵan, dwi wedi gweld ffigurau sydd yn dangos faint o brofion antibody sydd wedi cael eu gwneud mewn gwahanol sectorau: 13,000 o weithwyr iechyd wedi'u profi; 9,000 o weithwyr mewn hubs addysg wedi cael eu profi; a dim ond 75 o bobl sydd yn gweithio yn y sector gofal. Ydy'r Gweinidog yn gallu gweld bod hynny'n atgyfnerthu'r teimlad bod y sector yma wedi methu â chael ei blaenoriaethu'n gynnar yn y pandemig yma a'i bod hi'n dal i fethu â chael ei blaenoriaethu rŵan?