Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:26, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Yn hollol. Rwy'n credu eich bod wedi cadarnhau'r hyn roeddwn yn ei ddweud yn eich ymateb yno ar ddata'r dangosfwrdd. Dywedwch fod saith prawf positif yng Nghymru, tri mewn labordai nad ydynt yn rhai'r GIG; dim ond y saith a ddangosai'r dangosfwrdd a welais i. Felly, mae hynny'n dangos bod yn rhaid i'r holl ddata gael ei gyflwyno mewn ffordd gyfredol, lle bynnag y caiff y profion eu prosesu.

Rwy'n mynd i droi, yn olaf, at faes arall lle mae angen canlyniadau profion cyflymach, sef diagnosis canser. Mae argyfwng COVID wedi arwain at nifer o ragfynegiadau pryderus iawn am y marwolaethau ychwanegol o ganser sy'n debygol o ddigwydd eleni o ganlyniad i ganslo rhaglenni sgrinio, pobl yn rhy ofnus i ymweld â'r GIG, ac wrth gwrs, gohirio triniaethau. Felly, mae'n fwy hanfodol nag erioed ein bod yn cael canlyniadau prawf cyflym mewn achosion lle ceir amheuaeth o ganser. Felly, a wnewch chi fabwysiadu cynllun achub canser sydd â thargedau mwy uchelgeisiol ar gyfer profi a rhoi triniaeth nag a fu yn y gorffennol, oherwydd y tebygolrwydd y bydd y GIG yn canfod canserau'n hwyrach?