Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:28, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch i waith caled ac ymroddiad ein staff iechyd a gofal, yn ogystal â'r aberth enfawr gan y cyhoedd yng Nghymru, rydym dros y gwaethaf o'r argyfwng coronafeirws yn awr. Fel y mae'r prif swyddog meddygol yn dweud, a hynny'n gywir, gallem wynebu bygythiad o'r newydd gan COVID-19 erbyn yr hydref. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i sicrhau y gall y GIG yng Nghymru ddarparu gwasanaethau rheolaidd ar yr un pryd ag ymdrin â COVID-19? Neu a yw eich cynlluniau'n rhagweld y bydd gwasanaethau o ddydd i ddydd y GIG yn cael eu hatal ymhellach? Diolch.