Ailddechrau Triniaethau

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:35, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, roedd mynediad at driniaethau lle nad yw bywyd yn y fantol eisoes yn anghyfartal yn y GIG ledled Cymru. Gwyddom mai'r sefyllfa, er enghraifft, hyd yn oed cyn COVID yng ngogledd Cymru oedd bod pobl yn gorfod aros hyd at ddwy flynedd am eu llawdriniaethau orthopedig. Felly, a allwch ddweud wrthym, yn y camau hyn rydych yn disgwyl i fyrddau iechyd eu cymryd, a fydd cefnogaeth ychwanegol benodol i fyrddau iechyd fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'w helpu i fynd i'r afael â'r hyn sy'n debygol o fod yn broblem fwy sylweddol o lawer yng ngogledd Cymru na rhannau eraill o'r wlad o bosibl?