Tracio ac Amddiffyn

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:37, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb. Wrth gwrs, mae llwyddiant unrhyw fenter o'r fath yn dibynnu i raddau helaeth ar y profion cychwynnol, ac fel rydym wedi’i weld yr wythnos hon gyda rhai achosion a oedd yn gysylltiedig â thafarndai yn Lloegr, olrhain ar unwaith yn seiliedig ar brofion cyflym yw'r ffordd fwyaf effeithiol o nodi’r rhai a ddylai fod yn hunanynysu. Ar yr un pryd, rydym yn dal i glywed am achosion lle mae pobl â symptomau yn aros mwy na phum diwrnod am ganlyniadau profion. Felly, pam ein bod yn dal i weld yr oedi hwn cyn cael canlyniadau profion yn ôl, Weinidog? Yn eich tyb chi, beth yw gobygiadau hynny o ran atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach?