Cefnogaeth i'r Celfyddydau

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:52, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, gallaf ddweud wrtho’n gadarnhaol fod y cynllun Cyfuno yn un rwyf wedi’i etifeddu drwy un o fy hen ffrindiau gwleidyddol, Kay Andrews—y Farwnes Andrews—a ddyfeisiodd y cynllun, gan adrodd i Lywodraeth Cymru i’w sefydlu. A gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad pellach, gan ei fod yn dwyn materion cyfan ynghyd sy’n ymwneud ag anabledd a'r celfyddydau cymunedol, ac yn eu cysylltu â'r hyn y gallwn ei wneud.

Nawr, fe sonioch chi hefyd am 'sefydliadau'. Hoffwn ddweud yn gwbl glir nad yw'r cyllid hwn rydym wedi'i gael ar gyfer sefydliadau o reidrwydd. Mae ar gyfer sefydliadau sydd â chynlluniau busnes i'w cyflawni. Mae hefyd ar gyfer yr unigolion hynny—y gweithwyr artistig unigol—sy'n hunangyflogedig, y mwyafrif llethol ohonynt. A chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych tuag at y sector cyfan. Mae ar gyfer y personél sy'n darparu gwasanaethau artistig, yn ogystal â'r sefydliadau.