5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gefnogaeth fydd ar gael i'r celfyddydau yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi pecyn i gefnogi'r sector ymdopi ag effeithiau COVID-19? TQ466
Diolch am y cwestiwn yna, Siân. Mae gyda ni gronfa cadernid economaidd yn barod o fewn Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cymorth busnes sydd gyda'r mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ond rydym ni hefyd yn ymwybodol drwy'r trafodaethau cyson gyda'r sectorau, gan gynnwys y celfyddydau a diwylliant, beth yw'r heriau tymor hir y bydd angen cymorth ychwanegol.
O'r diwedd, fe ddaeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog diwylliant yn Lloegr am arian i'r celfyddydau yng Nghymru. Mae'n rhwystredig gorfod disgwyl am gyhoeddiadau fel hyn cyn y caiff Llywodraeth Cymru weithredu. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny. A wnewch chi symud ymlaen yn ddioed i sefydlu tasglu, i gynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector, er mwyn sicrhau cynllun gweithredu i achub y celfyddydau? Mae hi'n argyfwng arnyn nhw. Mae angen i'r cynllun sicrhau cefnogaeth i bob rhan o'r sector, o'r canolfannau a'r theatrau i'r miloedd o weithwyr llawrydd sydd yn rhan annatod o ecoleg y celfyddydau yng Nghymru.
Diolch yn fawr. Rydw i'n cytuno â chynnwys y cwestiwn, ond dwi ddim yn gallu cytuno i ateb yn adeiladol ynglŷn â sefydlu unrhyw fath o dasglu newydd, oherwydd dwi'n meddwl bod gennym ni y cyrff effeithiol yng Nghymru i weithredu yn y maes yma, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ond hefyd drwy lywodraeth leol. A dwi wedi cael trafodaethau'n barod—y bore yma, fel mae'n digwydd—gyda'r cynghorau lleol ynglŷn â'r posibilrwydd o ddefnyddio mwy o'r cynghorau lleol i gefnogi y celfyddydau yn y cymunedau. Ac felly, tra mod i'n croesawu'r gwariant o £59 miliwn ar gyfer Cymru, nid y fi fydd yn gwneud y penderfyniad ar y gwariant yna, oherwydd yn ôl y gyfundrefn gyllido sydd gan Gymru, wrth gwrs—ac yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yr un peth—mae'r cyllid yn cael ei ddosbarthu ar sail gwariant yng Nghymru yn ddatganoledig ar wariant cyfatebol yn Lloegr. Ond dydy hi ddim yn dilyn y bydd y gwariant yna yn cael ei wario'n gyfan gwbl ar yr hyn sydd yn digwydd yn Lloegr. A phe byddem ni'n dechrau mynd i lawr y llwybr yna, yna beth fyddai diben cael Llywodraeth yng Nghymru, cael cyllideb Gymreig, a chael rhyddid i Weinidogion yng Nghymru benderfynu beth sydd orau? Ac felly dydw i ddim yn bwriadu ymrwymo i ddilyn beth sy'n digwydd yn Lloegr.
Wel, wrth gwrs, Ddirprwy Weinidog, gallech wario mwy nag y maent am ei wario yn Lloegr—onid yw’r dewis yn mynd i fyny ac i lawr? Ond credaf ei bod yn bwysig iawn fod y cymorth hynod sylweddol hwn a fydd yn dod yn awr i sector y celfyddydau yn Lloegr, ac a fydd felly'n arwain at swm enfawr o gyllid canlyniadol—tua £59 miliwn—i Gymru yn cael ei wario mewn ffordd fentrus a strategol. Nodaf, yn Lloegr, fod y Gweinidog yno’n dweud ei fod am gyfuno cefnogaeth leol effeithiol â chadw’r hyn y mae’n ei alw’n drysor y seilwaith artistig yn Lloegr. Ac ymddengys i mi y bydd angen diogelu ein sefydliadau gwych yng Nghymru hefyd, gan na fydd cymaint ohonynt yn gallu rhoi unrhyw fath o fodel busnes arferol ar waith tan ymhell i mewn i 2021 ar y gorau. Felly, a allwch roi sicrwydd i ni y byddwch yn gweithio gyda'r holl sefydliadau gwych hyn? A hefyd, a fyddwch yn achub ar y cyfle i hyrwyddo'ch cynlluniau Cyfuno o ran mynediad a chydraddoldeb yn y celfyddydau, gan ei bod yn ymddangos i mi, o ystyried lefel y gefnogaeth gyhoeddus hon, y byddwn mewn sefyllfa i fynnu bod yr agenda honno’n cael ei datblygu'n gyflym?
Yn sicr, gallaf ddweud wrtho’n gadarnhaol fod y cynllun Cyfuno yn un rwyf wedi’i etifeddu drwy un o fy hen ffrindiau gwleidyddol, Kay Andrews—y Farwnes Andrews—a ddyfeisiodd y cynllun, gan adrodd i Lywodraeth Cymru i’w sefydlu. A gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad pellach, gan ei fod yn dwyn materion cyfan ynghyd sy’n ymwneud ag anabledd a'r celfyddydau cymunedol, ac yn eu cysylltu â'r hyn y gallwn ei wneud.
Nawr, fe sonioch chi hefyd am 'sefydliadau'. Hoffwn ddweud yn gwbl glir nad yw'r cyllid hwn rydym wedi'i gael ar gyfer sefydliadau o reidrwydd. Mae ar gyfer sefydliadau sydd â chynlluniau busnes i'w cyflawni. Mae hefyd ar gyfer yr unigolion hynny—y gweithwyr artistig unigol—sy'n hunangyflogedig, y mwyafrif llethol ohonynt. A chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych tuag at y sector cyfan. Mae ar gyfer y personél sy'n darparu gwasanaethau artistig, yn ogystal â'r sefydliadau.
Rwy’n amlwg yn clywed yr hyn a ddywed y Gweinidog am y ffordd y mae cyllid datganoledig yn gweithio, ond fe fydd yn ymwybodol—gwn ei fod yn ymwybodol—o ba mor ddifrifol yw’r argyfwng sy’n wynebu’r sector, ac ymyl y clogwyn rydym yn ei wynebu wrth inni agosáu at y pwynt pan fydd y cynllun ffyrlo yn dechrau cael ei leihau ym mis Awst. Mae rhai sefydliadau celfyddydol eisoes yn gwneud rhai staff—. Maent yn cyhoeddi llythyrau diswyddo oherwydd efallai y bydd yn rhaid iddynt gael gwared ar staff ddiwedd mis Gorffennaf. Felly, er fy mod yn deall yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am yr adeg y bydd angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynghylch faint o'r arian sy'n cael ei wario yn y sector hwn—ac wrth gwrs, fel Cadeirydd y pwyllgor, byddech yn disgwyl i mi ddymuno gweld y swm cyfan yn cael ei wario—a gaf fi ofyn i'r Gweinidog p’un a oes ganddo amserlen ddangosol o ran pryd y bydd y penderfyniadau hyn ynghylch swm yr arian yn cael eu gwneud, a hefyd pryd y bydd y sector yn gwybod sut y gallant wneud cais amdano?
Wel, bydd y drafodaeth gychwynnol ymhlith Gweinidogion yn mynd rhagddi yr wythnos hon. Rydych yn sôn am wneud cais amdano, ond nid ydym wedi penderfynu eto a fydd hyn yn rhan o gynllun sy’n bodoli eisoes, i ategu'r hyn y mae cyngor y celfyddydau wedi'i wneud, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae cyngor y celfyddydau wedi rheoli'r £7 miliwn y gwnaethom ei ddarparu iddynt cyn inni wybod bod gennym y cyllid pellach hwn. Felly, bydd yn cael ei drafod gyda chyngor y celfyddydau, ac yn enwedig gydag awdurdodau lleol Cymru, gan y credaf ei bod yn bwysig ein bod yn adfywio'r celfyddydau cymunedol a'r theatrau a'r gweithgarwch artistig sydd, yn draddodiadol, wedi digwydd drwy'r bartneriaeth rhwng yr awdurdodau lleol a chyngor y celfyddydau.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Mae'r cwestiwn amserol nesaf i'r Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, a'r cwestiwn i'w ofyn gan Carwyn Jones.