Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
[Anghlywadwy.]—yn bendant, gallaf weld pa mor gyffrous rydych chi gyda'r Bil hwn. Diolch i chi am ei gyflwyno. Efallai eich bod yn ei gadael ychydig yn hwyr i sicrhau Cydsyniad Brenhinol erbyn diwedd tymor y Senedd hon, ac mae hynny, rwy'n ofni, yn fy arwain yn syth at fy sylw cyntaf. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer adolygiad pum mlynedd, sy'n golygu y bydd hyn yn digwydd—[Torri ar draws.] Helo? A ydych yn dal i fy nghlywed? Iawn, rwyf am barhau. Gobeithio y byddwch yn ymestyn fy amser rhywfaint.