Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Gyd-Aelodau, dyma'r amser i gael y cwricwlwm cyntaf erioed i gael ei wneud yng Nghymru, wedi'i ffurfio gan y dysgu gorau yma yng Nghymru a thu hwnt. Nid yw nodweddion hanfodol y cwricwlwm presennol a ddyfeisiwyd ym 1988, gan Lywodraeth San Steffan ar y pryd, yn addas at y diben yn y Gymru gyfoes—un a ddyluniwyd cyn cwymp Wal Berlin, cyn iddi gael ei chwalu'n rwbel. Wel, nid dyna'r sylfaen gref rydym ei hangen i greu cwricwlwm entrepreneuraidd, llawn gwybodaeth a sgiliau hyblyg sy'n addas ar gyfer dinasyddion yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru a'r byd.
Fodd bynnag, mae'r cwricwlwm sydd newydd ei ffurfio'n ymwneud â mwy na sgiliau ar gyfer dyfodol ein heconomi a chyflogaeth yn y dyfodol. Bydd yn cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd uwch, i fod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, ac i esblygu i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol fel y mae pawb ohonom eisiau eu gweld, rwy'n siŵr. A bydd yn helpu i ddatblygu ein pobl ifanc fel dinasyddion hyderus, galluog a thosturiol—dinasyddion Cymru; yn wir, dinasyddion ein byd. Felly, byddwn yn deddfu ar gyfer y pedwar diben, er mwyn iddynt fod yn weledigaeth ac yn ddyhead a rennir ar gyfer pob plentyn, pob person ifanc. Ac wrth gyflawni'r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo llesiant unigol a chenedlaethol, yn mynd i'r afael ag anwybodaeth a chamwybodaeth, ac yn annog ymgysylltu beirniadol a dinesig. Bydd pob ysgol yn cael cyfle i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm eu hunain o fewn y dull cenedlaethol sy'n sicrhau cysondeb i ddysgwyr ar draws y wlad.
Mae'r chwe maes dysgu a phrofiad yn cysylltu disgyblaethau cyfarwydd ac yn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon ar eu traws. Er bod disgyblaethau'n dal i fod yn bwysig, mae'r dull newydd hwn yn cynorthwyo dysgwyr i feithrin cysylltiadau ar draws eu dysgu, gan eu helpu i ddeall yr hyn y maent yn ei ddysgu yn ogystal â pham y maent yn ei ddysgu, a bydd y Bil angen cwricwlwm i wreiddio'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Yn ogystal, mae'r Bil yn nodi pedair elfen orfodol arall yn y cwricwlwm, gan gynnwys y Gymraeg a'r Saesneg. Mae hyn yn adlewyrchu ein dwyieithrwydd, tra hefyd yn cydnabod trochi cyfrwng Cymraeg allweddol a llwyddiannus iawn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y ddadl barhaus ar safle'r Saesneg yn y Bil. Ac yn union fel y gwneuthum yr wythnos diwethaf yn ystod dadl Plaid Cymru, rwyf am ddweud unwaith eto y byddaf yn parhau i gymryd rhan yn y sgyrsiau hynny ac yn ystyried y camau nesaf. Ond gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i gynnydd pob dysgwr ar y daith i fod yn ddinesydd dwyieithog fan lleiaf, ac mae eu gwerthfawrogiad, eu dealltwriaeth a'u gallu i gwestiynu'r byd yn adeiladu o wybod eu hanes eu hunain, eu democratiaeth eu hunain a'u hamgylchedd eu hunain.
Mewn gwirionedd, mae darpariaethau'r cwricwlwm presennol yn gul, maent yn gyfyngol, ac nid ydynt yn gwneud digon i gefnogi athrawon i gynllunio a datblygu cwricwlwm sy'n rhoi blaenoriaeth i gynnydd dysgwyr. Felly, byddwn yn symud i gyfnod newydd lle bydd pob dysgwr yn elwa o addysg eang a chytbwys. Ond mae'n rhaid inni beidio â gostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc, ni waeth beth fo'u cefndir. Mae'n fater sylfaenol o degwch a rhagoriaeth i bawb, a dyna pam fod miloedd a miloedd yn rhagor o ddysgwyr yng Nghymru yn dechrau ac yn ennill TGAU gwyddoniaeth erbyn hyn. Dyna pam ein bod ni bellach yn perfformio'n well na chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig yn ein canlyniadau Safon Uwch a dyna pam fod miloedd yn fwy yn astudio ac yn llwyddo ar lefelau addysg uwch.
Felly, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion gyhoeddi cod cynnydd sy'n nodi'r ffordd y mae'n rhaid adlewyrchu cynnydd yng nghwricwlwm ysgol. Bydd cyhoeddi cod cynnydd gydag elfennau gorfodol yn sicrhau bod cysondeb yn y ffordd yr edrychir ar gynnydd ar draws y wlad.
Oherwydd ein bod yn codi safonau ac yn cyflawni system sy'n gallu ennyn hyder y cyhoedd, mae'r cyflawniadau rwyf newydd eu crybwyll hefyd yn dangos ein bod bellach yn barod fel cenedl i symud ymlaen gyda'n cwricwlwm newydd. Mae hyn yn golygu symud o bynciau cul i chwe maes dysgu a phrofiad eang; cwricwlwm sy'n seiliedig ar ddiben—pedwar diben sy'n cyfleu'r math o ddinasyddion rydym eu heisiau, y dinasyddion rydym eu hangen; a ffocws go iawn ar dri sgil craidd statudol: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Hwn fydd ein cwricwlwm newydd i Gymru, o Gymru, gan Gymru, ac rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd y pwynt hwn. System lle mae gan bawb gyfran a rennir, lle rydym yn gosod safonau uchel i bawb a lle rydym yn cyfuno gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, lle nad oes neb, yn unman, yn cael ei ddiystyru, a lle gallwn gymryd y camau nesaf yn ein cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio eich bod yn gallu dweud fy mod yn teimlo'n gyffrous iawn am y cyfle hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau ac ymdrechion cyfunol yr Aelodau yma yn y Senedd hon i fynd â'r Bil arwyddocaol hwn ar ei daith seneddol. Diolch yn fawr iawn.