Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Fel arfer, dwi'n siarad yn Saesneg achos dwi'n fwy hyderus yn Saesneg, achos pan o'n i yn yr ysgol, do'n i ddim yn gallu dysgu Cymraeg—dim gair, dim gair o Gymraeg, tan wnes i gwrs Wlpan. Roedd y cwrs drwy drochi yr iaith. Wedyn, yr wythnos diwethaf, ro'n i'n poeni'n fawr pan oedd y Blaid Lafur yma, a'r Gweinidog hefyd dwi'n meddwl, a Phlaid Cymru, wedi pleidleisio yn erbyn cyrsiau trochi.