Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch, Llywydd. Cafodd wythdeg o blant eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer—80 o blant, 80 o deuluoedd na fydd eu bywydau byth yr un fath eto. Er ein bod ni wedi gwneud cynnydd o ran lleihau nifer y marwolaethau ar ein ffyrdd yn ystod yr 21 mlynedd o ddatganoli, er gwaethaf ein hymdrechion sylweddol, mae 4,000 o ddamweiniau o hyd sy'n arwain at anafiadau bob blwyddyn yng Nghymru.
Mae'r dystiolaeth yn glir: mae lleihau cyflymder yn lleihau damweiniau. Mae lleihau cyflymder yn achub bywydau, ac mae cyflymderau arafach yn ein cymunedau yn gwella ansawdd bywyd hefyd. Yn ôl arolwg troseddu Prydain, traffig yn goryrru sy’n cael ei ystyried y broblem wrthgymdeithasol fwyaf difrifol. O'r 16 o enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol y gofynnwyd i bobl eu graddio, fe wnaeth bob demograffig raddio mai traffig yn goryrru yw'r broblem fwyaf mewn cymunedau lleol. Mae ofn traffig ar frig rhestr pryderon rhieni hefyd, ac mae plant heddiw yn cael eu cadw yn nes at adref nag yr oeddem ni, sy’n lleihau eu hannibyniaeth a'u rhyddid i grwydro ac sy'n arwain at y cylch diddiwedd o berygl cynyddol wrth i fwy o bobl yrru eu plant i'r ysgol, gan gynyddu anghydraddoldebau iechyd hefyd. Fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, mae nifer y marwolaethau ymhlith cerddwyr sy’n blant bedair gwaith yn uwch mewn cymdogaethau difreintiedig nag mewn rhai cefnog.
Nid yw'r dull gweithredu hyd yma wedi arwain at y canlyniadau yr hoffem ni eu gweld. Mae'r broses y mae'n rhaid i awdurdodau lleol fynd drwyddi i ostwng y terfynau—y gorchmynion rheoleiddio traffig—yn araf, yn gymhleth ac yn gostus. Er gwaethaf miliynau o bunnau o fuddsoddiad, dim ond tua 1 y cant o'r rhwydwaith ffyrdd sy'n destun terfyn cyflymder o 20mya.
Heddiw rydym ni'n cyhoeddi adroddiad y tasglu 20mya, a'r briff a osodais i'r tasglu oedd gweithio yn agos gyda'r rhai hynny a fydd yn gyfrifol am roi’r gyfraith newydd hon ar waith i feddwl am ddull a fydd yn gweithio yn ymarferol. Rwy'n hynod ddiolchgar i Phil Jones am arwain y darn sylweddol hwn o waith dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n nodi'n systematig y rhwystrau rhag rhoi’r newid sylweddol hwn ar waith ac yn defnyddio profiad yr heddlu, awdurdodau lleol, arbenigwyr iechyd y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol i lunio ffyrdd trwodd.
Mae adroddiad y tasglu yn argymell troi'r broses bresennol ar ei phen er mwyn sicrhau, yn hytrach na bod terfyn cyflymder diofyn o 30mya a bod angen i gymunedau gyflwyno'r achos i fynd yn is, mai 20mya fydd y terfyn cyflymdra diofyn, ac y bydd angen gwneud achos i fynd yn uwch. Mae'r newid hwn i’r terfyn cyflymder diofyn yn ffordd gost-effeithiol o ostwng y terfyn cyflymder ar holl ffyrdd preswyl Cymru. Gyda Trafnidiaeth Cymru, mae'r tasglu wedi datblygu arf mapio, sy'n awgrymu'r ffyrdd a ddylai newid ac a fyddai'n darparu'r man cychwyn ar gyfer trafodaeth gyda chymunedau lleol. Yn hanfodol, Llywydd, cymunedau ac awdurdodau lleol a fydd yn penderfynu pa ffyrdd a ddylai aros ar 30mya. Gyda chefnogaeth y Senedd heddiw, byddwn yn mireinio'r dull hwn yn fwy trwy'r ardaloedd braenaru, lle byddwn yn treialu ac yn addasu wrth i ni fynd. Nid ydym yn disgwyl i gyflymder ostwng i 20mya dros nos. Bydd yn cymryd amser i newid ymddygiad. Ond mae hyd yn oed gostyngiad o 1 y cant mewn cyflymderau cyfartalog yn debygol o arwain at ostyngiad o 6 y cant yn nifer y bobl sy'n cael eu hanafu.
Byddwn yn disgwyl i'r gyfraith gael ei gorfodi. Cafwyd cynrychiolaeth gan yr heddlu ar y tasglu, ac rwyf i wedi cael trafodaethau calonogol gyda chomisiynwyr yr heddlu. Ond mae'r tasglu hefyd yn awgrymu cyfres o ffyrdd o roi hwb i ymddygiad, hefyd. Er enghraifft, mae'r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn dwyn perswâd ar sefydliadau yr ydym yn eu hariannu i sicrhau bod eu cerbydau yn cadw at 20mya er mwyn creu dosbarth o geir gosod cyflymder, a fydd wedyn yn creu effaith gynyddol. Dros amser, bydd hyn yn dod yn norm. Yn union fel ysmygu mewn bwytai neu roi organau, rwyf i wedi fy argyhoeddi y caiff hyn ei ystyried yn synnwyr cyffredin yn fuan. Mae hyn yn ymwneud gymaint â newid calonnau a meddyliau ag â gorfodi caled, a byddwn yn datblygu ymgyrch gyfathrebu sydd wedi ei gwreiddio mewn gwerthoedd i gyflwyno'r achos dros newid.
Hoffwn i dalu teyrnged arbennig i Rod King o'r ymgyrch 20’s Plenty am ei waith penderfynol dros flynyddoedd lawer i greu clymblaid dros newid. Roedd fy nghyfarfod cyntaf fel Gweinidog gydag ef a fy nghydweithiwr, John Griffiths, i drafod sut y dylem ni weithredu addewid Mark Drakeford i annog rhagdybiaeth o derfynau cyflymder 20mya mewn ardaloedd preswyl. Mae John, hefyd, wedi bod yn hyrwyddwr gwirioneddol o'r agenda hon, ac mae wedi bod yn agenda drawsbleidiol, Llywydd, gyda chefnogaeth gan bob rhan o'r Siambr ers blynyddoedd lawer. Yn y tymor Senedd hwn yn benodol, y mae wedi cael cefnogaeth frwd gan David Melding, Jenny Rathbone, Joyce Watson ac eraill, ac rwy'n gobeithio y gallwn gynnal sail drawsbleidiol y gefnogaeth. Yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n hapus i dderbyn gwelliant Plaid Cymru i'r cynnig heddiw. Mae yn iawn cydnabod bod angen adnoddau priodol ar yr asiantaethau gorfodi i ymateb i'r newid. Ac mae hynny yn rhywbeth y bydd y Senedd yn dymuno ei ystyried wrth iddi bennu cyllidebau'r dyfodol.
Bydd y buddsoddiad yn dwyn ffrwyth—achub bywydau, atal damweiniau drud, gwella iechyd meddwl a chorfforol, a chryfhau ffabrig cymunedol, sy’n fwy anniriaethol ond yr un mor werthfawr. Fodd bynnag, mae angen cael llawer o fanylion yn gywir yn gyntaf, Llywydd, ac nid ydym yn mynd i ruthro pethau. Rydym ni'n awyddus i wneud pethau yn iawn. Rydym ni’n bwriadu rhoi hyn ar waith yn llawn yn 2023. Cyn hynny, gyda chefnogaeth y Senedd, bydd angen i ni roi 21 argymhelliad manwl y tasglu ar waith. Rydym ni’n derbyn pob un ohonyn nhw a byddwn yn parhau i weithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol a'r heddlu i'w rhoi ar waith gyda'n gilydd. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr holl bleidiau i ddechrau'r broses hon. Diolch.