Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Yn rhy aml, y peth amlwg i'w wneud yn y dadleuon hyn yw rhestru'r holl flaenoriaethau sy'n eich wynebu chi neu eich etholaeth. Yn hytrach na darllen rhestr o feysydd lle'r wyf i'n credu y byddai gwariant ychwanegol yn helpu Blaenau Gwent—boed yn addysg, iechyd, cymorth busnes, llywodraeth leol neu hyd yn oed lliniaru effaith Brexit 'heb gytundeb' trychinebus, yr hyn yr hoffwn i ei wneud y prynhawn yma yw gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol a chanolbwyntio ar sut yr wyf i'n credu y dylai'r Llywodraeth fod yn mynd ati yn y cylch cyllideb hwn, a rhai o'r camau a fyddai'n deillio o'r pwyntiau egwyddor hynny.
Mae pennu cyllideb heddiw yn wahanol iawn i'r broses o bennu cyllideb pan gefais fy ethol gyntaf, 13 mlynedd yn ôl, pan oedd pennu cyllideb yn ei hanfod yn ymwneud â gwneud penderfyniadau gwario—penderfyniadau ynghylch ble y byddai gwahanol rannau o'r gyllideb yn cael eu gwario. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni bennu cyllideb fantoledig, ac mae'n rhaid i ni ystyried sut yr ydym yn codi arian yn ogystal â sut yr ydym yn gwario arian. Ac mae hynny yn galw am broses gyllidebol wahanol iawn. Mae hefyd yn mynnu bod y lle hwn yn gweithredu mewn ffordd wahanol. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ymchwilio i gyllideb a phroses ariannol ddeddfwriaethol. Rwy'n credu bod yr amser hwnnw wedi dod. Dywedodd y Prif Weinidog, yn ei dystiolaeth, y daw'r amser ar ryw adeg. Rwyf i'n credu bod yr amser wedi dod heddiw pan ddylem ni fod yn rhoi systemau a strwythurau priodol ar waith ar gyfer craffu ar bob gwariant a phob elfen o godi trethi. Nid wyf i'n credu ei bod yn iawn ein bod yn trethu pobl yn y wlad hon heb basio darn o ddeddfwriaeth sy'n gosod y sail ar gyfer hynny. Mae angen mwy o oruchwyliaeth arnom ni a mwy o atebolrwydd o ran pennu cyllidebau, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod gennym ni gylch cyllideb deddfwriaethol sydd wedi ei sefydlu yma mewn statud, a hynny, mae'n debyg, ar ddechrau'r Senedd nesaf. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi sylw i hynny.
Ond wrth fwrw ymlaen â hynny, rwy'n credu bod rhai egwyddorion y mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn yn eu cylch. Mae llawer o bobl wedi sôn am ddychwelyd i normalrwydd ar ôl yr argyfwng COVID, ond gadewch i mi ddweud hyn: i lawer o bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli yn y wlad hon, nid oedd yr hen normal yn brofiad hapus iawn. Nid oedd yn brofiad hapus iawn i fod yn gweithio dwy neu dair swydd wahanol am yr isafswm cyflog, gyda thelerau ac amodau ofnadwy. Nid oedd yn brofiad da iawn i fod yn byw mewn tai gwael, heb unrhyw ymdeimlad o ddyfodol y gallem edrych ymlaen ato. Mae angen normal newydd arnom ni sy'n well na'r hen normal—normal newydd lle gallwn ni ddal bysiau a gweithio mewn cyflogaeth ddiogel am gyflog teilwng a lle mae telerau ac amodau teilwng. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod cynaliadwyedd yn elfen gwbl ganolog i'r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud.
Roeddwn i wedi siomi'n fawr fod y Gweinidogion cyllid blaenorol—nid y deiliad presennol—wedi gwrthod yn llwyr cynnwys cynaliadwyedd yn un o egwyddorion arweiniol allweddol penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y gyllideb. Rwy'n gobeithio y caf i fwy o lwyddiant gyda'r Gweinidog cyllid hwn nag yr wyf i wedi ei gael gyda'i rhagflaenwyr, ond byddwn i'n sicr yn dadlau bod cynaliadwyedd yn allweddol i'r gyllideb. Ond yn ail, ac yn drydydd hefyd, mae cyfiawnder cymdeithasol, tegwch, cydraddoldeb a deall beth fydd y dyfodol. Yn rhy aml o lawer pan fyddwn yn pennu ein cyllidebau, rydym yn ystyried yr hyn a gafodd ei wario y llynedd ac wedyn yn ceisio ei gynyddu rhywfaint neu, o bosibl, ei leihau rhywfaint y flwyddyn nesaf. Rwyf i'n credu bod angen i ni edrych yn fanwl ar beth fydd y dyfodol. Rydym ni'n gwybod y byddwn yn gweld newid diwydiannol sylweddol yng Nghymru o ganlyniad i newid technolegol. Fe wyddom ni fod COVID eisoes wedi newid y ffordd y mae llawer ohonom ni'n ymddwyn, a bydd rhai o'r newidiadau hynny yn barhaol. Mae angen i ni allu edrych yn fanwl a deall y dyfodol hwnnw, ac yna gwneud penderfyniadau sydd â'u gwreiddiau yn egwyddorion gwleidyddol cynaliadwyedd, tegwch a chydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ac wedyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut yr ydym yn gwario yr arian sydd ar gael i ni.
Ond rwyf i hefyd yn awyddus i weld polisi treth yn rhan ganolog o hyn. Nid wyf i o'r farn y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau o fewn y cwantwm cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Dorïaidd yn Llundain nad yw'n rhannu ein hegwyddorion, yr un gwerthoedd a'r un gweledigaethau, ac mae angen i ni fod yn barod i ddadlau hynny drwy broses yn y fan yma wrth bennu cyllideb.
Felly, beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Dirprwy Lywydd dros dro, rwyf i'n dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn pobl, mewn lleoedd, mewn swyddi, mewn ansawdd bywyd. Rwyf i'n dymuno ein gweld yn buddsoddi yn nyfodol canol trefi, ac mae angen i'r rhain fod yn wahanol iawn i'r hyn yr oedden nhw pan oeddwn i'n ifanc. Ni fydd y canol trefi hynny o flynyddoedd fy ieuenctid yn y Cymoedd fyth yr un fath eto. Mae angen i ni ail-ddyfeisio hynny ac mae angen i ni allu ariannu hynny. Mae angen i ni fuddsoddi yn ein cymunedau, felly maen nhw'n lleoedd lle gall pobl deimlo'n ddiogel a lle rydym ni bobl eisiau byw ac yn mwynhau byw. Rydym ni hefyd yn gweld nifer enfawr o ddiswyddiadau ar hyd a lled y wlad, ac nid dim ond y diswyddiadau yr ydym yn eu gweld yn y penawdau, ond pobl yn colli eu swyddi mewn cwmnïau bach a busnesau nad ydyn nhw'n cyrraedd y penawdau, ond gyda'i gilydd sy'n newid llawer o gymunedau a bywydau llawer o bobl.
Rwy'n gobeithio y byddwn ni—ac wnaf i ddim trethu eich amynedd, Llywydd dros dro; fe ddywedaf i hyn i gloi—y gall y Llywodraeth weithredu'n gyflym, yn ystwyth ac ar fyrder. Nid oes gennym ni'r moethusrwydd o fod â digon o amser ar gael i ni, ac nid oes gan lawer o'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli y moethusrwydd o fod â digon o amser ar gael iddyn nhw. Nid yw'n ddigon da gwneud areithiau am yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld; mae angen cyllideb arnom ni a fydd yn cyflawni'r hyn y mae angen i ni ei weld. Diolch.