Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Mae'n anochel y bydd y gyllideb ddrafft sydd ar ddod yn cael ei heffeithio, wrth gwrs, fel rŷn ni'n clywed yn gyson, gan COVID-19, hefyd gan ddiwedd cyfnod pontio Brexit, a’r adolygiad o wariant y Deyrnas Unedig, sydd wedi'i ohirio. Yr wythnos diwethaf, fe gawsom ni ddatganiad haf gan Lywodraeth y DU a oedd yn cynnwys symiau ychwanegol o gyllid canlyniadol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, does gennym ni ddim ffigurau cyllido ar gyfer 2021-22 o hyd. Er mwyn i Lywodraeth Cymru gynllunio'n effeithiol a sicrhau'r lefel briodol o waith craffu seneddol, mae'n amlwg bod cyllidebau'r llywodraethau datganoledig yn dibynnu ar amseriad cyllideb y Deyrnas Unedig. Felly, dwi a fy nghymheiriaid yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu ar y cyd at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gofyn am arwydd cynnar ynglŷn ag amseriad cyllideb y Deyrnas Unedig a sicrwydd y rhoddir ystyriaeth i effaith yr amseriad hwnnw ar y prosesau cyllidebol priodol ar draws y gwledydd datganoledig.
Fel arfer, mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal digwyddiad blynyddol i randdeiliaid ar y gyllideb, ond yn anffodus eleni, o ystyried y cyfyngiadau symud ledled y wlad, dyw hynny ddim wedi bod yn bosib. Mae hyn yn siomedig i'r pwyllgor a, dwi'n siŵr, i randdeiliaid hefyd, gan fod y digwyddiadau yma wedi cael derbyniad da iawn yn y gorffennol. Mae’n gyfle gwych i glywed safbwyntiau cynnar rhanddeiliaid am beth ddylai blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru fod. Fe gaiff hyn ei ddefnyddio wedyn gan y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau polisi eraill i nodi nifer o feysydd i ganolbwyntio eu gwaith craffu ar y gyllideb o'u cwmpas nhw. Yn lle hynny, eleni rŷn ni wedi ymgysylltu ar-lein er mwyn ceisio safbwyntiau o ran yr hyn y mae rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn credu y dylai blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru fod. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein harolygon barn ni yn hynny o beth. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod yr ymarfer ymgysylltu hwn yn gyfyngedig, wrth gwrs, o ran cwmpas gan mai sampl hunanddewis, heb ei seilio ar sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth, a ddefnyddiwyd. Fodd bynnag, mae'n rhoi cipolwg diddorol i ni ar safbwyntiau gwahanol bobl, ac rŷm ni wedi nodi nifer o feysydd yr hoffem ni ganolbwyntio arnyn nhw yn sgil hynny.
Roedd sylwadau a gafwyd o'r gwaith ymgysylltu yn dangos bod y gwasanaeth iechyd ac addysg yn feysydd blaenoriaeth allweddol, gydag un cyfranogwr yn nodi bod angen mwy o fuddsoddiad cychwynnol mewn iechyd ac addysg i helpu i ysgogi diwylliant o ffyrdd o fyw’n iach i leihau'r straen ar y gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol, ac wrth gwrs i ryddhau cyllidebau yn y tymor hir. Yn amlwg, bydd effaith COVID-19 yn fater i Lywodraeth Cymru wrth bennu ei chyllideb nesaf. Roedd 49 y cant o'r cyfranogwyr o'r farn y dylid gwneud newidiadau sylweddol i'r swm sy’n cael ei wario ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a'r blynyddoedd i ddod o ganlyniad i'r pandemig. Fodd bynnag, doedd dim llawer o awydd ymhlith y cyfranogwyr i godi trethi er mwyn cynyddu'r swm sydd gan Lywodraeth Cymru i’w wario yng Nghymru. Roedd rhai yn dadlau y byddai lleihau trethi yn ysgogi mewnlif cyfalaf a gwariant domestig. Fe gafwyd ymateb cadarnhaol o ran mwy o fenthyca er mwyn manteisio ar gyfraddau llog sydd, wrth gwrs, is nag erioed, ac rŷm ni wedi cefnogi cais y Gweinidog am hyblygrwydd dros fenthyca a mynediad at gronfa wrth gefn Cymru yn ein hadroddiad diweddar ar y gyllideb atodol. Fodd bynnag, gwnaeth 27 y cant o'r cyfranogwyr hepgor y cwestiwn am drethiant a benthyca, a gallai hyn fod yn arwydd o’r ffaith bod angen i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon wneud mwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch datganoli cyllidol yng Nghymru.
Roedd cyfranogwyr yn teimlo'n gryf y dylai newid hinsawdd a chynaliadwyedd gael eu hystyried mewn penderfyniadau ar wariant gan Lywodraeth Cymru. Roedd cyfranogwyr yn credu y dylid canolbwyntio ar drafnidiaeth werdd, gan ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gerdded, i feicio neu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn sicrhau buddion iechyd a hefyd i leihau’r baich ar wasanaethau iechyd. Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill y llynedd, ac mae'n amlwg bod cyfleoedd i fanteisio ar y newidiadau helaeth mewn ymddygiad dynol o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws i ddefnyddio’r gwariant yng nghyllideb 2021-22 i fwrw ymlaen ag adferiad gwyrdd o COVID-19.
Roedd datganiad yr haf yr wythnos diwethaf yn cynnwys rhywfaint o arian ychwanegol, sydd i’w groesawu, mesurau megis y bonws cadw swyddi a chymorth i'r sector lletygarwch a thwristiaeth. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod risgiau sylweddol i economi Cymru, ac mae angen mwy o fuddsoddiad yn ogystal ag ystod o bolisïau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i lywio’r economi allan o ddirwasgiad. Mae'n hanfodol bod gan Lywodraeth Cymru fwy o sicrwydd o ran cyllid a mwy o hyblygrwydd hefyd i gael mynediad at fenthyciadau a chronfeydd wrth gefn i gyflawni hyn.
Mae hyn oll, ynghyd â'r ansicrwydd ynghylch sut y bydd argyfwng COVID-19 yn parhau, ac ansicrwydd o ran yr arian sydd ar gael i Gymru, yn ei gwneud yn bwysicach fyth i ni gael y ddadl yma heddiw. Mae angen inni ddefnyddio'r cyfle hwn i ystyried yn ofalus pa fath o economi, pa fath o wasanaethau cyhoeddus a chymdeithas rŷn ni'n dymuno eu gweld wrth inni ddod allan o'r argyfwng yma a beth y gallai hyn ei olygu o ran blaenoriaethau a phenderfyniadau buddsoddi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
Gyda’n gilydd, mae angen inni sicrhau bod y gyllideb yn cael ei defnyddio mor effeithiol â phosibl er mwyn diwallu anghenion Cymru yn y ffordd orau, i sicrhau bod y boblogaeth yn iach, yn addysgedig, ac yn ddiogel, a bod yr economi'n adfer ac yn ffynnu. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn, felly, at glywed cyfraniadau'r Aelodau eraill i'r cyfle yma sydd i drafod y mater yma y prynhawn yma.