Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro, am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl bwysig hon a groesewir yn fawr. Rwy'n credu ei fod yn fenter ardderchog, un yr wyf i'n gobeithio y gallwn barhau â hi, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando'n astud ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i sylwadau'r Aelodau.
Rwy'n cydnabod y bu'r pandemig yn gyfnod heriol iawn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau cyllidebol. Rydym ni'n gwybod bod cyllidebau o dan bwysau aruthrol ac rwy'n credu ei bod hi'n ddealladwy y bu'r Llywodraethau yn awyddus i wneud penderfyniadau cyflym i wario arian er mwyn gwneud gwahaniaeth. Ond nid yw hynny bob amser yn golygu mai'r penderfyniadau cywir yw'r rhai hynny.
Un penderfyniad o'r fath yr hoffwn i ei grybwyll heddiw, a thynnu sylw ato fel blaenoriaeth o ran gwariant yn y dyfodol, yw'r £7 miliwn a dynnwyd o'r gronfa trawsnewid iechyd meddwl, ac rwyf i wedi codi pryderon ynghylch hyn o'r blaen yn y Siambr. Ac, yn fy marn i, bu diffyg tryloywder, sy'n peri cryn bryder, ynghylch yr hyn a wnaed gyda'r arian hwnnw. Nawr, rwy'n gwybod bod rhywfaint ohono wedi ei ddyrannu i iechyd meddwl staff oherwydd yr argyfwng COVID, ac mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl briodol—y dylem ni geisio cefnogi iechyd meddwl ein staff sydd wedi bod ar y rheng flaen yn yr argyfwng hwn. Ond fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, rwy'n teimlo'n gryf y dylai'r arian hwnnw fod wedi bod yn arian ychwanegol, ac nid wedi ei dynnu o gronfa drawsnewid hanfodol.
Nawr, mae'r Aelodau yn gwybod fy mod i wedi bod yn ymwneud llawer ag ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau iechyd meddwl plant yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a gallaf i ddweud wrth yr Aelodau fod ffordd bell iawn i fynd o ran cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen arnom ni. Nawr, roedd y gronfa honno, yn ogystal â bod ar gyfer plant, ar gyfer oedolion hefyd, a gallaf ddweud wrth yr Aelodau, mewn gwirionedd, fy mod i'n credu bod y sefyllfa o ran oedolion yn waeth o lawer, a bod angen hyd yn oed mwy dybryd am fuddsoddiad parhaus yn y maes hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn sôn llawer am yr angen am gydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol, ond o fy safbwynt i, rydym ni'n bell iawn o fod yn y sefyllfa honno yng Nghymru.
Byddwn i wedi gwneud y sylwadau hynny cyn pandemig iechyd byd-eang, ond mae'r ffaith ein bod ni wedi cael y pandemig hwn yn gwneud y sylwadau hynny yn fwy taer byth. Mae hwn yn bandemig sydd wedi effeithio ar iechyd meddwl pob un ohonom ni—rydym ni i gyd wedi teimlo gorbryder, ofn a thrawma—ond i rai pobl, bydd y pandemig hwn yn arwain at broblemau iechyd meddwl parhaol. Rydym ni wedi cael pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain nad ydyn nhw wedi gweld unrhyw un ers misoedd lawer. Rydym ni wedi cael pobl sydd wedi wynebu profedigaeth yn y sefyllfaoedd mwyaf annormal, lle nad ydyn nhw wedi gallu dal llaw y rhai maen nhw'n eu caru. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddirwasgiad o'n blaenau ac yn nesáu, ac rydym ni i gyd yn gwybod y cysylltiadau rhwng dirwasgiadau economaidd ac iechyd meddwl gwael, a hyd yn oed hunanladdiad. Felly, nid wyf i'n credu y bu erioed amser pwysicach i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'n wirioneddol amser bellach, yn fy marn i, i'r Llywodraeth roi eu harian ar eu gair o ran dweud y dylai fod cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. A, Gweinidog, dechrau da cyntaf i mi fyddai rhoi'r £7 miliwn hwnnw yn ôl yn y gronfa trawsnewid iechyd meddwl.
Roeddwn i'n dymuno gwneud dau sylw arall ynglŷn ag egwyddorion a ddylai fod yn sail i'r gyllideb. Rwy'n credu mai anghydraddoldeb yw un ohonyn nhw. Mae'r pandemig wedi bod yn un sy'n gwneud i anfantais ymwreiddio. Rydym ni wedi gweld hynny yn y rhai sy'n marw—bron i ddwbl y marwolaethau mewn cymunedau mwy difreintiedig. Rydym ni wedi ei weld yn yr effaith ar y rhai hynny sydd wedi dioddef fwyaf, o ran plant sydd wedi ei chael hi'n anodd mewn teuluoedd tlotach i allu dysgu oherwydd diffyg adnoddau digidol, a hyd yn oed y bobl sydd wedi gallu cadw'n ddiogel drwy weithio gartref. Mae'n hanfodol bod y gyllideb yn cydnabod hynny, ac rwy'n ategu sylw Mike Hedges yn llwyr—nid oes unrhyw fuddsoddiad strategol pwysicach y gallwn ei wneud nag yn addysg ein pobl ifanc. A fu adeg erioed pan fu'r buddsoddiad hwnnw i'n pobl ifanc yn fwy pwysig pan fo'r dyfodol yn edrych mor ddu?
Ac yn olaf, felly, o ran anghydraddoldeb, hoffwn dynnu sylw, unwaith eto, at y materion sy'n ymwneud â chyllid iechyd. Treuliais fy mlynyddoedd cynnar yn y Cynulliad hwn yn ymgyrchu dros fformiwla ddyrannu i'r GIG wedi ei seilio ar anghenion. Yn y pen draw, creodd Llywodraeth Cymru fformiwla Townsend, a oedd i fod i ddyrannu adnoddau i'r cymunedau sydd â'r angen mwyaf am wariant iechyd. Nid yw'r fformiwla honno erioed wedi ei gweithredu yn iawn. Rwy'n credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar sut y mae'r penderfyniadau gwariant hynny yr ydych yn eu gwneud yn gweithredu yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Gallaf i ddweud wrthych, yn achos Torfaen, ein bod ni'n teimlo ein bod ni wedi aros yn ddigon hir. Diolch.