Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Rwy'n deall, Cadeirydd; byddaf i'n gryno. Diolch, ac rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac, yn wir, i ddilyn y Gweinidog emeritws—mae bob amser yn dda gwrando ar yr hyn sydd gan Alun Davies i'w ddweud. Roedd yn ddoniol braidd pan ddywedsoch chi, Alun, eich bod yn gobeithio y caech chi fwy o lwyddiant gyda Rebecca na'i rhagflaenydd, gan mai ei rhagflaenydd, wrth gwrs, oedd y Prif Weinidog, felly rwy'n tybio y bydd angen i chi siarad ag ef hefyd ynghylch gwneud yn siŵr bod rhai o'r materion hynny ynglŷn â chynaliadwyedd yn wirioneddol gyfrif yn y dyfodol.
Mae cael y ddadl hon cyn proses Llywodraeth Cymru o bennu'r gyllideb ddrafft yn sicr yn ffordd wahanol o wneud pethau; nid wyf i'n cofio pryd yr ydym ni wedi cael y math hwn o ddadl, y math hwn o drafodaeth o'r blaen. Ac wrth edrych ar yr agenda, mae 2021-22 yn ymddangos yn bell i ffwrdd ar lawer ystyr, ond gall y Senedd hon gyfrannu rhywfaint at y broses honno nawr, ac rwy'n credu ei bod hi'n beth da ein bod ni yn ceisio gwneud rhyw fath o gyfraniad at hynny.
O ran y mater a gododd Alun Davies ynghylch symud at broses cyllideb ddeddfwriaethol, mae hyn yn rhywbeth yr oedd gen i feddwl agored yn ei gylch am gyfnod hir, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef, wrth i amser fynd heibio, fod cryfder y ddadl dros Fil cyllid priodol i amrywio trethi, ac yn y blaen, wedi fy argyhoeddi ei bod yn ffordd dda o fynd ati. Fel y dywedodd Alun, mae hyn yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn ei ystyried yn fanwl ar hyn o bryd, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni wneud mwy o waith arno ac yn rhywbeth y dylem ni ei argymell fel ffordd dda o fynd ati yn y dyfodol, yn enwedig wrth i bwerau trethu y Cynulliad ymsefydlu ac ehangu.
Wrth gwrs, yr anhawster o gael y ddadl hon ar hyn o bryd, er ein bod ni yn ceisio cynnal dadleuon mor normal ag sy'n bosibl, yw cefndir y pandemig a natur y sefyllfa sy'n parhau. O ran y broses o bennu'r gyllideb nesaf ar gyfer Llywodraeth Cymru, bydd llawer yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd dros weddill y flwyddyn hon, yn ystod yr hydref ac, yn wir, wrth symud drwy'r blynyddoedd nesaf o ran y pandemig ac a fydd ail gynnydd sydyn.
Ac wrth gwrs, ar wahân i hynny, rydym ni yn awyddus i ail-adeiladu yn well, ymadrodd a ddefnyddiais yn gynharach yn y cwestiynau, ac sy'n un da yn fy marn i. Rwy'n credu ei fod yn esbonio'n gwbl eglur sut y dylem ni fel Senedd, a sut y dylai Llywodraeth Cymru, geisio ailadeiladu'r economi. Mae'n fwy na dim ond mater, fel sydd newydd gael ei ddweud, o fynd yn ôl at yr hen normalrwydd. Rydym ni'n awyddus i ddod allan o'r pandemig hwn drwy adeiladu ar gyfer y dyfodol mewn modd mwy cynaliadwy nag a wnaethom ni yn y gorffennol, a manteisio ar y cyfleoedd sydd wedi eu cyflwyno ac nid ymateb yn unig i rai o'r heriau, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ei wneud.
Felly, dylai cyllideb Llywodraeth Cymru fod yn dangos ymrwymiadau clir i'r broses honno o ailadeiladu mewn modd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol bod cynaliadwyedd yn ganolog i bob agwedd ar waith y Llywodraeth, gan gynnwys y gyllideb, ond yn llawer rhy aml nid fel yna y mae hi. Mae argyfwng yr hinsawdd wedi gwneud hyn yn hanfodol; byddwn yn aml yn sôn am yr argyfwng newid yn yr hinsawdd, ond yn rhy aml, nid yw'n argyfwng sy'n cael y math o sylw a phwyslais y dylai eu cael mewn gwirionedd. Felly ie, dylai'r rhain i gyd fod wrth wraidd y broses o bennu cyllideb, nid dim ond yn ychwanegiad ar y diwedd, dylen nhw gael eu cynnwys ar y dechrau a thrwy gydol y broses. Ac os, am ba reswm da bynnag, bydd angen i Lywodraeth Cymru wyro, neu'n teimlo bod angen iddi wyro oddi wrth rai o'r egwyddorion hynny, yna iawn, ond mae angen i ni fel Senedd gael gwybod am hyn ac mae'n rhaid iddo fod yn dryloyw pam mae hynny'n digwydd. Mae'n rhaid i broses y gyllideb ddrafft nesaf wneud yr economi yn fwy gwyrdd wrth i ni ail-godi o'r pandemig.
Rwy'n credu bod band eang—fe wnes i sôn am hyn yn gynharach; dyma fydd fy mhrif sylw heddiw—yn gwbl hanfodol. Gallwn, fe allwn ni wella'r rhwydwaith ffyrdd, gallwn, fe allwn ni wella'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae'r rhain i gyd yn bethau y dylem ni fod yn eu gwneud. Ond os byddwn ni'n cael y band eang a'r seilwaith digidol yn iawn ar y dechrau, yna ni fydd angen i ni greu yr un lefel o gapasiti a chynnal yr un lefel o gapasiti ag yr ydym ni wedi gwneud yn y gorffennol. Mae llawer gormod o ardaloedd yng Nghymru wledig o hyd heb ddarpariaeth band eang ddigonol. Mae camgymeriadau wedi eu gwneud yn y gorffennol wrth ymdrin â rhai o'r contractau hynny, ac mae angen cywiro hynny. Rwy'n gobeithio bod cyllideb 2021-22 yn cynnwys penderfyniad gwirioneddol, ar bob lefel ac ar draws adrannau, i gael seilwaith band eang y wlad hon yn iawn, i ddarparu ar gyfer y mannau gwan, ac i geisio cael hyd at 100 y cant o signal gymaint ag y bo modd, ond signal dibynadwy hefyd.
Byddaf i yn dweud, i ddod i gasgliad, Cadeirydd, o ran rhai o'r pethau yr hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig eu gweld, wel, rydym ni wedi bod yn dadlau ers tro bod angen ailgyfeirio gwariant er mwyn creu cronfa adfer yr economi ar ôl COVID. Hoffem ni weld cronfa o £250 miliwn y gellid ei defnyddio i helpu trefi a chymunedau ledled Cymru. Mae dadl gref hefyd, rwy'n dal i ddweud, dros ddileu ardrethi busnes i fusnesau hyd at werth ardrethol o £15,000, i roi hwb i'r economi ac i gefnogi busnesau ar yr adeg hon a rhoi arian iddyn nhw fuddsoddi yn eu gweithlu ac yn y dyfodol. Rydym ni hefyd wedi dweud y byddem ni'n creu parthau sy'n rhydd rhag ardrethi busnes, gyda gwyliau ardrethi busnes am hyd at dair blynedd ar gyfer busnesau sy'n gymwys i fynd i'r parthau hynny. Dim ond rhai meysydd yw hynny yr ydym ni'n credu y gellid eu cynnwys yn y gyllideb nesaf.
Ond ar wahân i gynnwys gwirioneddol y gyllideb honno, rwyf i'n credu bod hon yn ffordd dda iawn o symud ymlaen. Rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn yn cael mwy o drafodaethau ar ddechrau'r broses o bennu cyllideb y Senedd, er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o safbwyntiau'r Senedd hon ar y cyfle cyntaf i lunio'i chyllidebau.